Neidio i'r prif gynnwy

Datblygu Byrddau yn GIG Cymru

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn arwain ar ddatblygu dull cenedlaethol o Ddatblygu Byrddau ar gyfer GIG Cymru, gan gefnogi Cyfarwyddwyr Gweithredol ac Anweithredol i barhau i gryfhau’r gallu arweinyddiaeth sydd ei angen i ymateb i heriau presennol a heriau’r system yn y dyfodol.

Mae’r gwaith hwn yn cydnabod y rôl hanfodol y mae Byrddau’n ei chwarae wrth lunio cyfeiriad strategol, darparu trefniadau llywodraethu effeithiol, bod yn stiwardiaid adnoddau cyhoeddus a galluogi’r gwaith o ddarparu gofal teg o ansawdd uchel i bobl ledled Cymru.

Bydd y cynnig Datblygu Byrddau cenedlaethol yn darparu cyfleoedd datblygu hygyrch sy’n cefnogi uwch arweinwyr i gymhwyso dysgu yn ymarferol, cryfhau arweinyddiaeth ar y cyd a chyfrannu at flaenoriaethau a rennir ar draws GIG Cymru. Bydd yn cael ei lywio gan ddisgwyliadau arweinyddiaeth cenedlaethol, blaenoriaethau’r system ac anghenion esblygol aelodau Byrddau, gyda ffocws ar ddysgu ymarferol sy’n cefnogi gwneud penderfyniadau effeithiol, cydweithio a gwelliant.

Mae’r gwaith hwn yn rhan o rôl ehangach AaGIC wrth gefnogi datblygiad arweinyddiaeth, talent a’r gweithlu ar draws GIG Cymru. Bydd gweithgarwch cynllunio olyniaeth a datblygu’r biblinell arweinyddiaeth yn parhau drwy feysydd eraill o bortffolio arweinyddiaeth a rheoli talent AaGIC.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: HEIW.TalentSuccession@wales.nhs.uk