Neidio i'r prif gynnwy

Recriwtio

Stethoscope surrounding a family

Rydym yn cynnig rhaglenni Meddyg Teulu (GP)  ym mhob rhan o Gymru ar draws 11 ysgol hyfforddi arbenigol.

Ar gyfer pob cynllun yng Nghymru, mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni MT dynodedig (GP PDs) sy'n cynorthwyo, trefnu ac arwain hyfforddiant.

Fel hyfforddai, byddwch yn cael cynnig ystod eang o swyddi hyfforddiant mewn ysbytai a phractisau cyffredinol yng Nghymru. Mae'r rhain yn cydymffurfio â safonau'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (CMC) ar gyfer hyfforddiant.

 

Hyfforddiant yng Nghymru

Mae Practis cyffredinol yn cynnig gyrfa gydag amrywiaeth, hyblygrwydd a her. Rydych yn gweithio mewn timau i ddarparu gofal cyfannol a pharhaus i gleifion a'u teuluoedd ar draws ystod o leoliadau. Mae'r rhain yn cynnwys dinasoedd trefol mawr, trefi bach, lleoliadau gwledig, a chymunedau anghysbell.

 

Swyddi gwag Hyfforddiant Meddygon Teulu a Hyfforddiant Cyfunol

Mae'r prif rownd recriwtio ar gyfer hyfforddiant Meddygon Teulu, a elwir yn Rownd 1, ac mae’r dyddiad cychwyn ym mis Awst ac fe'i hysbysebir ym mis Tachwedd bob blwyddyn. Hysbysebir swyddi gwag ar gyfer pob cynllun yng Nghymru yn ystod y rownd hon. Ar gyfer rownd recriwtio 2, mae’n dechrau ym mis Chwefror ac fe'i hysbysebir ym mis Gorffennaf bob blwyddyn, fel arfer dim ond nifer gyfyngedig o swyddi sydd ar gael, gan mai dim ond y swyddi hynny na lenwyd yn ystod Rownd 1 y gallwn eu hysbysebu.

Gan nad ydym yn gallu hysbysebu swyddi gwag ar gyfer rhai o'n cynlluniau hyfforddi yn ystod rownd 2, mae'n debygol y bydd swyddi ysbyty wedi'u cymeradwyo ar gyfer hyfforddiant Meddygon Teulu a fydd yn cael eu dychwelyd i'r Byrddau Iechyd i'w recriwtio fel swyddi LAT (Penodiad Locwm ar gyfer Hyfforddiant) am gyfnod o chwe mis. Pe baech yn gwneud cais am un o'r swyddi hyn ac yn ddiweddarach yn gwneud cais llwyddiannus am swydd hyfforddiant Meddygon Teulu, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer cynllun hyfforddi byrrach. Er na ellir gwarantu derbyn cynllun hyfforddi byrrach, efallai y byddai'n werth ystyried gwneud cais am y swyddi gwag hyn os penderfynwch aros tan rowndiau recriwtio yn y dyfodol i wneud cais am hyfforddiant Meddygon Teulu. Byddai angen i chi gysylltu â'r Bwrdd Iechyd yn uniongyrchol ynghylch argaeledd y swyddi hyn.

Mae rhagor o wybodaeth am gynlluniau byrrach, a elwir hefyd yn hyfforddiant cyfunol, ar gael ar ein gwefan yma: Hyfforddiant cyfunol ar gyfer hyfforddeion meddygon teulu – AaGIC.

 

Cymhelliant ariannol

Mae rhagor o wybodaeth am y cymhellion hyn ar gael yn ein Cwestiynau cyffredin.

 

Cyfleoedd hyfforddiant pellach

Cyfleoedd hyfforddiant academaidd ar gyfer hyfforddeion MT (GPSAT)

Gallwch ymgymryd â rhaglen hyfforddiant academaidd ynghlwm wrth adrannau academaidd Prifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor.

Caiff y cyfleoedd hyn eu hysbysebu'n flynyddol i hyfforddeion MT ST2.

 

Trac Academaidd Clinigol Cymru (WCAT)

Nod y gymrodoriaeth hon yw rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i chi fel hyfforddai academaidd clinigol i gystadlu fel ymchwilydd annibynnol ym maes ymchwil trosiadol fodern.

Mae pob cymrodoriaeth WCAT yn darparu hyfforddiant o’r cychwyniad hyd nes cael y Dystysgrif Cwblhau Hyfforddiant (CCT). Mae'n cynnwys cymrodoriaeth hyfforddiant PhD tair blynedd a ariennir â chyflog. Mae hefyd yn cynnwys cyfnod o hyfforddiant clinigol gydag amser academaidd gwarchodedig (0.2 WTE) yn y blynyddoedd hyfforddiant clinigol.

 

Cymrodoriaeth Hyfforddiant Arweinyddiaeth Glinigol Cymru (WCLTF)

Dyma gyfle blwyddyn i feddygon, deintyddion, nyrsys, fferyllwyr, optometryddion, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr gofal iechyd.

Mae rhaglen WCLTF yn darparu hyfforddiant a phrofiad ymarferol mewn arweinyddiaeth a rheolaeth glinigol. Ei nod yw recriwtio a datblygu arweinwyr clinigol mwyaf uchelgeisiol y dyfodol.

 

 

Ymgeisiwch nawr

Caiff recriwtio i bob rhaglen Hyfforddiant Arbenigol Ymarfer Cyffredinol (GPST) yn y DU drwy broses genedlaethol a reolir gan y Swyddfa Recriwtio Genedlaethol Meddygon Teulu (GPNRO).

Pam ydych chi’n oedi? Darganfyddwch ragor am ffenestri recriwtio a sut i wneud cais a dechrau gyrfa eich breuddwydion.