Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.

Terminoleg Feddygol yn Gymraeg

Terminoleg Feddygol yn Gymraeg

Y lle gorau i ddod o hyd i gyfieithiadau Cymraeg o dermau meddygol yw'r porth terminoleg cenedlaethol "Porth Termau Cenedlaethol Cymru".

Mae hwn i'w weld yn termau.cymru

Mae'n syml iawn i'w ddefnyddio – teipiwch y term rydych chi am ei gyfieithu (o'r Saesneg i'r Gymraeg NEU o'r Gymraeg i'r Saesneg) a bydd yr opsiynau'n ymddangos ar y sgrin;

Wefan Termau


Wedi canfod 2 canlyniad.

Dyma ganlyniadau Saesneg sy'n berthnasol i:

physiotherapist (2)

cofnodion sy'n cyfateb i
'physiotherapist'

physiotherapist ffisiotherapydd eg ffisiotherapyddion
Y Termiadur Addysg, Therapi Galwedigaethol, Gofal Iechyd Pobl Hŷn, Termau Cyllid, Termau Nyrsio a Bydwreigiaeth, Termau'r Cyngor Gofal
physiotherapist ffisiotherapydd eb ffisiotherapyddion
Termau Hybu Iechyd

Ac i ffwrdd â chi!

Mae'r adnodd hwn yn cael ei ddiweddaru'n gyson gan Brifysgol Bangor, ond yn y cyfamser, os oes gennych ymholiad cyfieithu am derm nad yw'n ymddangos yn yr adnodd hwn, mae'r GIG yn cadw eu cronfa ddata eu hunain o gyfieithiadau arbenigol, a gallwch gael copi o'r gronfa ddata hon drwy e-bostio; Welsh.HEIW@Wales.nhs.uk