Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.
Mae'r Ysgol Feddygaeth yn AaGIC yn rheoli dros 20 o raglenni hyfforddi arbenigol ledled Cymru, gan gymryd hyfforddeion o hyfforddiant Craidd (Hyfforddiant Meddygaeth Fewnol neu IMT cam 1) hyd at lefel ymgynghorol a Thystysgrif Cwblhau hyfforddiant (TCC).
Mae hyfforddiant meddygaeth yng Nghymru yn rhoi'r cyfle i ddatblygu eich gyrfa i'w lawn botensial mewn amgylchedd hyblyg gyda chymorth da o fewn system gofal iechyd datganoledig. Gweler yma ac yma am ragor o wybodaeth am weithio a byw yng Nghymru.
Goruchwylir hyfforddiant ym mhob arbenigedd gan Bwyllgor Hyfforddi Arbenigol (STC) sy'n cael ei arwain gan Gyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi (TPD)
Gan weithio gyda'r pwyllgorau hyn, rydym yn:
Mae'r Ysgol Feddygaeth yn gyfrifol i'r Deon Meddygol Ôl-raddedig ac rydym yn gweithio'n agos gyda Bwrdd Hyfforddi Ôl-raddedig y Colegau Brenhinol (JRCPTB) a'i Bwyllgorau Cynghori Arbenigol (SACs). Hefyd, mae gennym gysylltiadau agos â Choleg Brenhinol y Meddygon (Cymru) a rhwydwaith Tiwtoriaid y Coleg Brenhinol. Pennaeth yr Ysgol Meddygaeth yw Dr Shaun Smale.
Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy edrych ar dudalennau arbenigedd unigol. Fel arall, neu am wybodaeth gyffredinol yn ymwneud â'r Ysgol Feddygaeth, cysylltwch â HEIW.Secondarycare@wales.nhs.uk neu ffoniwch 03300 584216 .