Mae Technegwyr Meddygol Brys yn rhan o’r tîm gwasanaethau brys, ac maent yn ymateb i alwadau brys 999, gan ddefnyddio goleuadau glas a seiren.
Mae rhaid i Dechnegwyr Meddygol Brys ymateb i unrhyw sefyllfa feddygol frys, y gall rhai ohonynt beri gofid a chynnwys pobl sydd wedi niweidio’n wael neu sydd wedi dioddef trawma difrifol. Gallant roi cymorth cynnal bywyd datblygedig i gleifion sy’n ddifrifol wael neu sydd wedi eu hanafu, ac mae’r swydd yn rhoi cryn foddhad iddynt. Does dim modd rhagweld beth fydd yn digwydd mewn sifft a bydd yn llawn heriau.
Er mwyn bod yn Dechnegydd Meddygol Brys, bydd rhaid eich bod:
Mae Technegwyr Meddygol Brys yn darparu gofal clinigol effeithiol o ansawdd uchel cyn i gleifion gyrraedd yr ysbyty, ynghyd â chludo cleifion. Maent yn ymateb i achosion brys 999 gan ddefnyddio sgiliau gyrru uwch o dan amodau goleuadau glas, ac maent hefyd yn gyfrifol am symud cleifion rhwng ysbytai, derbyniadau brys i ysbytai ac ymyriadau cleifion eraill sy’n gymesur â’u rôl a’u cyfrifoldebau.
Gan weithio mewn criw o ddau, gall Technegwyr Meddygol Brys ddechrau rhoi gofal priodol a thriniaeth effeithiol i gleifion cyn iddynt gyrraedd yr ysbyty, gan ddewis a defnyddio’r sgiliau ac offer addas mewn modd diogel, a hynny o fewn y lefel hyfforddiant, cymhwysedd a chwmpas ymarfer sy’n briodol.
Bydd yn rhaid i recriwtiaid newydd basio cwrs hyfforddiant clinigol dwys gan gynnwys cwrs hyfforddiant goleuadau glas, ynghyd â chwblhau asesiadau chwarterol, er mwyn cymhwyso’n Dechnegydd Meddygol Brys
Mae Technegwyr Meddygol Brys wedi eu lleoli mewn gorsaf ambiwlans, ac fel arfer maent yn cwmpasu ardal ddaearyddol benodol. Maent yn gweithio mewn sifftiau, gan gynnwys yn y nos ac ar y penwythnos a gwyliau banc, felly mae’n rhaid iddynt fod yn hyblyg.
Band cyflog 4 ynghyd â thaliadau ychwanegol oherwydd oriau anghymdeithasol, gan ddibynnu ar batrwm y sifftiau. Ewch i'n hadran am Gyflog a Buddion am ragor o wybodgeth.
Caiff pob swydd yn Ymddiriedaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ei hysbysebu ar wefan NHS Jobs, felly gallwch chi wneud cais pan gaiff swydd ei hysbysebu. Byddai angen addysg o safon resymol arnoch ar lefel TGAU gan gynnwys Mathemateg, Saesneg a phwnc mewn Gwyddoniaeth (neu gymwysterau cyfatebol), ynghyd â meddu ar C1 a D1 ar eich trwydded yrru.