Mae Anfonwyr Meddygol Brys yn anfon yr adnoddau i helpu claf ar ôl galwad brys 999.
Mae’n rhaid i Anfonwyr Meddygol Brys aros yn ddigynnwrf o dan bwysau a gwneud penderfyniadau yn gyflym er mwyn sicrhau y caiff y cymorth cywir ei anfon at glaf. Bydd angen y canlynol arnoch:
Sgiliau dadansoddi da a’r gallu i wneud penderfyniadau doeth
Y gallu i fod yn ddigynnwrf o dan bwysau
Y gallu i fod yn hyblyg
Sgiliau TG da
Mae Anfonwyr Meddygol Brys yn penderfynu pa fath o ymateb sydd ei angen ar glaf, megis ambiwlans, car ymateb cyflym neu hofrennydd. Maent yn defnyddio system gyfrifiadurol er mwyn darganfod pa gerbydau sydd gerllaw, ac mae’n rhaid iddynt wneud y defnydd gorau o adnoddau i gynorthwyo’r claf.
Maent yn gweithio mewn sifftiau, gan gynnwys yn y nos ac ar y penwythnos a gwyliau banc, felly mae’n rhaid iddynt fod yn hyblyg.
Mae Anfonwyr Meddygol Brys yn gweithio yn yr ystafell reoli ambiwlansys.
Mae cyfleoedd i gamu ymlaen i rôl Arweinydd Sifftiau neu Reolwr Rheolaeth ar Ddyletswydd. Mae rhai Anfonwyr Meddygol Brys hefyd yn camu ymlaen i rolau gweithredol, naill ai’n Gynorthwywyr Gofal Brys neu’n Dechnegwyr Meddygol Brys.
Band cyflog 3 - Ewch i’n hadran am Gyflog a Buddion am ragor o wybodaeth.
Caiff pob swydd yn Ymddiriedaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ei hysbysebu ar wefan NHS Jobs, felly gallwch chi wneud cais pan gaiff swydd ei hysbysebu. Byddai angen addysg o safon resymol arnoch ar lefel TGAU (neu gymwysterau cyfwerth neu brofiad)), ynghyd â sgiliau TG da a phrofiad gweinyddol.