Mae gan aelodau gwahanol o’r tîm fferyllol sgiliau a chymwysterau gwahanol, sy’n cael eu defnyddio i ddarparu ‘gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn’. Mae hyn yn ymwneud â helpu unigolion i ddefnyddio’u meddyginiaethau yn ddiogel ac i aros yn iach yn hirach.
Ble bynnag y bo meddyginiaethau, bydd aelod o’r tîm fferyllol. Gall hyn fod mewn ysbyty, archfarchnad, fferyllfa ar y stryd fawr, cartref nyrsio, syrjeri meddyg teulu, canolfan alwadau Galw Iechyd Cymru neu hyd yn oed yn eich cartref eich hun.
Mae’n rhaid ichi fod yn weithiwr iechyd proffesiynol cofrestredig i wneud rhai swyddi ym maes fferylliaeth:
Fodd bynnag, mae nifer o gyfleoedd i staff cynorthwyol anghofrestredig mewn timau, fferyllol, a chaiff hyfforddiant ei roi yn y swydd ar gyfer y rhain fel arfer: