Cyhoeddwyd y Fframwaith Proffesiynol ar gyfer Ymarfer Clinigol Estynedig, Uwch ac Ymgynghorol yng Nghymru gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru ym mis Mehefin 2023.
Mae’r fframwaith yn:
Credwn y bydd creu llwybrau gyrfa pendant ar gyfer ymarferwyr estynedig, uwch ac ymgynghorol yn ennyn diddordeb staff, yn gwella cyfraddau cadw staff ac yn ategu darpariaeth gofal diogel, hygyrch ac o ansawdd uchel i gleifion.
Flwyddyn ers ei gyhoeddi, rydym yn falch o weld lefelau uchel o ymgysylltu ynghyd â gweithrediad amlwg y fframwaith o fewn byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ledled Cymru.
Mae hyn wedi sicrhau dull mwy cyson o ddatblygu, addysgu a rheoli rolau ymarferwyr clinigol estynedig, uwch ac ymgynghorol presennol ac i’r dyfodol yng Nghymru.
Mae diffinio lefelau ymarfer yn helpu i ddynodi sgiliau, gwybodaeth a chymhwysedd ymarferwyr. Mae hyn yn galluogi sefydliadau i gynllunio'r addysg, yr oruchwyliaeth, y cymorth a’r prosesau llywodraethu sy’n angenrheidiol i alluogi unigolion i ddatblygu yn eu rolau ac ymgyrraedd at lefelau ymarfer newydd.
Mae AaGIC wedi datblygu canllawiau ar gyfer cofnodi rolau uwch-ymarfer yn ESR (Cofnod Staff Electronig y GIG).
Crëwyd y canllawiau i wella data GIG Cymru ynghylch y rolau hyn. Mae hyn yn cynnwys:
Mae AaGIC wedi datblygu canllaw i gynorthwyo ymarferwyr estynedig, uwch ac ymgynghorol i ddatblygu portffolio o dystiolaeth sy'n arddangos lefel eu hymarfer fel yr amlinellir yn y Fframwaith Proffesiynol ar gyfer Ymarfer Clinigol Estynedig, Uwch ac Ymgynghorol yng Nghymru.
Nid yw e-bortffolio MARS ar gael bellach i ymarferwyr clinigol yng Nghymru