Rydym wrthi'n ymgynghori ar y prif gamau gweithredu fydd yn sail i’r Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Fferylliaeth yng Nghymru, a byddem yn gwerthfawrogi eich mewnbwn.
Mae’r cynllun strategol yn pennu’r cyfeiriad ar gyfer datblygu gweithlu fferylliaeth sy'n meddu ar y cyfuniad priodol o sgiliau ac sy'n cynnwys digon o weithwyr i ymateb i anghenion iechyd a gofal cymdeithasol y boblogaeth. Y cynllun gweithlu fferylliaeth strategol dogfen ymgynghoria allwn gyrchu yma: Dogfen Ymgynghori Cynllun y Gweithlu Fferylliaeth
Bydd gan y gweithlu fferyllol y gwerthoedd, yr ymddygiadau, y wybodaeth, y sgiliau a’r hyder priodol i gefnogi lles pobl, a bydd pawb yn y gweithlu’n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Mae’r cynllun yn cael ei ddatblygu mewn ymateb i’r camau gweithredu a amlinellir yn Cymru Iachach: Ein Cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac mae’n cynnwys pob rhan o’r gweithlu sy’n cyfrannu at y gwaith o ddarparu gwasanaethau fferyllol GIG Cymru.
Er mwyn sicrhau ein bod yn datblygu dull cyfannol o gefnogi ein gweithlu fferylliaeth, mae hyn yn cynnwys timau fferyllol sy'n cael eu cyflogi gan y GIG a’r rheini sy’n cael eu cyflogi gan gontractwyr y GIG.
Sut i gymryd rhan
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal yn ystod y 6 wythnos rhwng 20fed Chwefror a hanner nos ar 2il Ebrill 2023.
Atodir copi o’r ddogfen ymgynghori sy’n cynnwys y camau gweithredu arfaethedig a chopi o gwestiynau’r ymgynghoriad.
Gallwch gyflwyno eich atebion drwy lenwi’r e-ffurflen hon. Does dim rhaid i chi roi eich enw nac unrhyw wybodaeth a fyddai’n datgelu pwy ydych chi wrth lenwi’r e-ffurflen.
Neu, gallwch anfon eich atebion dros e-bost i HEIW.PharmacyWorkforce.wales.nhs.uk defnyddio'r cwestiynau hyn
Rydym hefyd yn cynnal nifer o weithdai ymgynghori rhithwir, yn ogystal ag Uwchgynhadledd ar gyfer y Gweithlu.
Datganiadau o ddiddordeb ar gyfer Digwyddiadau Ymgynghori Rhithwir
Er mwyn ein helpu i baratoi, cofrestrwch eich diddordeb ar gyfer un o'n digwyddiadau ymgynghori rhithwir. Dilynwch y ddolen hon:
Dydd Mawrth 28ain o Chwefror 11:00 -12:30 Ymunwch yma
Dydd Iau 9fed o Fawrth 19:00 -20:30 Ymunwch yma
Dydd Llun 13eg o Fawrth 13:30 -15:00 Ymunwch yma
Dydd Mawrth 14eg o Fawrth 19:00-20:30 Ymunwch yma
mae cyfieithu ar y pryd Cymraeg ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn
Dydd Mercher 22ain o Fawrth 12:00 -13:30 Ymunwch yma
Dydd Gwener 24ain o Fawrth 9:30 -11:00 Ymunwch yma
Dydd Mercher 29ain o Fawrth 13:30 -15:00 Ymunwch yma
Dull
Mae ein gwaith diagnostig wedi cael ei seilio ar y tri bloc adeiladu canlynol sydd wedi cael eu dylunio i gasglu, dadansoddi a thriongli mewnbynnau a gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau
Ymgysylltu Ymchwil a Data
Darperir dogfen dechnegol ar wahân sy’n dangos gwaith ym mhob colofn:
Ymgysylltu
Dechreuodd hyn gyda Gweithgor Bywyd Byr i nodi Atebion Brys ar gyfer y Gweithlu ym mis Ionawr 2022.
Un peth a ddaeth o hyn, ar ôl gweithio gyda rhanddeiliaid a Thîm Digidol AaGIC, oedd cyhoeddi’r Catalog Atebion ar gyfer y Gweithlu, sef casgliad o ymyriadau aciwt sydd wedi cael eu profi yng Nghymru i liniaru’r pwysau wrth ddarparu gwasanaethau fferylliaeth y GIG.
Cynhaliwyd 30 o ddigwyddiadau ymgysylltu, gan gynnwys cyfuniad o ddigwyddiadau, wyneb yn wyneb ac o bell, gyda’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, yn ogystal â thri arolwg cenedlaethol o’r gweithlu ar draws timau ym maes fferylliaeth gymunedol, timau dan gyflogaeth y GIG a thimau fferylliaeth a oedd yn cael eu cyflogi gan bractis cyffredinol. Mae hyn yn golygu ein bod wedi cynnwys dros 900 o unigolion yn y gwaith o lywio’r Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Fferylliaeth rhwng mis Ionawr a mis Tachwedd 2022. Yn ystod y 12 wythnos diwethaf, rydym wedi ymestyn ein gwaith ymgysylltu i nodi gwaith trawsbynciol o fewn timau eraill AaGIC, wedi ymgysylltu ag Aelodau Gweithredol ac Anweithredol o Fwrdd AaGIC ac wedi dechrau sgyrsiau ehangach gyda Grwpiau Cyfoedion Cenedlaethol y GIG.
Ymchwil
Mae gwasanaethau llyfrgell y GIG wedi ein helpu i chwilio am ddeunyddiau darllen. Adolygwyd 40 o bolisïau a chyhoeddiadau o Gymru, y DU ac yn rhyngwladol oedd yn ymwneud â’r gweithlu fferylliaeth ac iechyd, a chrynhowyd y themâu allweddol. Drwy gydol y cyfnod ymgysylltu, mae rhanddeiliaid wedi tynnu sylw at ymchwil a pholisïau ychwanegol, ac rydym ninnau wedi’u hadolygu ac wedi’u hychwanegu at y set ddata lle bo hynny’n briodol. Roedd y themâu yn y llenyddiaeth yn cyd-fynd â’r themâu a oedd yn deillio o’r gwaith ymgysylltu.
Data
Mae’r ddogfen dechnegol hon yn dwyn ynghyd fanylion elfennau gwahanol o ddata gweithlu fferylliaeth y Cyngor Fferyllol Cyffredinol a dros 320 o gyflogwyr. Mae’n cydnabod y tueddiadau rydym wedi gallu eu nodi (bod gweithluoedd y GIG a phractis cyffredinol yn tyfu) ac mae’n disgrifio sut mae angen i ni ddod â setiau data gwahanol at ei gilydd i drin a dadansoddi tueddiadau’r gweithlu ac i lywio ein gwaith comisiynu yn y dyfodol.