Diweddariad: 29/06/2021
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi casgliad llwyddiannus tendr addysg proffesiynau gofal iechyd cyn-gofrestru Cymru gyfan. Dyma'r broses gomisiynu fwyaf yr ydym yn ymgymryd â hi ac mae'n werth £ £1,153,047,634.
Dydd Llun 28ain o Fehefin 2021, hysbyswyd Prifysgolion am y dyfarniadau contract a gwnaethom ddechrau ar “gyfnod digyfnewid am 10 diwrnod”. Yn ystod y cyfnod hwn gall cynigwyr herio'r penderfyniad a/neu godi unrhyw ymholiadau sydd ganddynt ynglŷn â chanlyniad yr ymarfer tendro - mae hwn yn ofyniad cyfreithiol rheoliadau caffael. Ar yr amod na dderbynnir unrhyw heriau ffurfiol, ar ddiwedd y cyfnod digyfnewid (12 Gorffennaf 2021) byddwn yn cyhoeddi'r contractau'n ffurfiol i gynigwyr llwyddiannus yn barod i gyflwyno addysg ddechrau ym mis Medi 2022.
Isod rydym wedi crynhoi themâu allweddol a manteision posib y contractau addysg newydd ar gyfer byrddau iechyd ac yn Atodiad 1 y mae yna restr lawn o ganlyniadau'r contract ar gyfer pob rhaglen.
Rhoddwyd pwyslais hefyd ar recriwtio myfyrwyr o ardaloedd difreintiedig yng Nghymru ac o gymunedau anodd eu cyrraedd, lle mae cymhelliant ariannol yn cael ei ymgorffori i alluogi mwy o gefnogaeth i'r myfyrwyr hynny o'r Mynegai Cymru Amddifadedd Lluosog yng Nghymru.
Mae'r Gymraeg yn bwysig iawn ac mae gan y contractau newydd ofynion penodol o ran yr iaith Gymraeg ar gyfer Sefydliadau Addysg Uwch yn ogystal â mesurau ychwanegol sy'n cefnogi ein corff myfyrwyr i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg.
Pellach Mae buddion Cymru Gyfan yn cynnwys,
Diolch
Mae'r adolygiad o addysg gofal iechyd israddedig yng Nghymru a chontractau dilynol wedi bod yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth ar ei orau. Gyda'n gilydd rydym wedi llunio dyfodol addysg gofal iechyd yng Nghymru gan sicrhau ein bod yn darparu'r addysg sydd ei hangen ar fyfyrwyr, yn ogystal â sefydliadau a chleifion gyda gweithlu sy'n alluog ac yn hyderus i ddarparu gofal rhagorol. Rydym yn ddiolchgar iawn i'n holl bartneriaid a chydweithwyr sydd wedi gweithio gyda ni ar yr adolygiad a'r contractau.
Y dyfodol
Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid dros y 12 mis nesaf ar y cam o weithredu'r contractau ac wedi hynny ar ddarparu addysg broffesiynol gofal iechyd cyn-cofrestru o ansawdd uchel yng Nghymru.
Wrth symud ymlaen, rydym hefyd yn gweithio ar gam dau'r adolygiad strategol o addysg gofal iechyd i Gymru gan gynnwys datblygu contractau ar gyfer addysg gweithwyr cymorth gofal iechyd ac ystod o raglenni ôl-raddedig.
Gwasanaethau Addysg a Hyfforddiant Gweithwyr Proffesiynol Iechyd AaGIC (Cam 1) |
||
Enw’r Lot |
Is-lot |
Cynigydd llwyddiannus |
Nyrsio (Oedolion, Plant ac Iechyd Meddwl) |
1a Caerdydd a'r Fro gan gynnwys Felindre (Llawn Amser yn Unig) |
Prifysgol Caerdydd |
1b Caerdydd a'r Fro (BSc / BN Llawn Amser, BSc / BN Rhan Amser, Dip PG / MSc) |
Prifysgol De Cymru |
|
1c Aneurin Bevan Llawn Amser yn Unig |
Prifysgol Caerdydd |
|
1d Aneurin Bevan a Powys Llawn Amser BSc / BN, Rhan Amser BSc / BN, PG Dip / MSc |
Prifysgol De Cymru |
|
1e Cwm Taf Morgannwg |
Prifysgol De Cymru |
|
1f Bae Abertawe |
Prifysgol Abertawe |
|
1g Hywel Dda Gogledd |
Prifysgol Aberystwyth |
|
1h Hywel Dda, Dwyrain, De a Gorllewin |
Prifysgol Abertawe |
|
1i Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Gorllewin |
Prifysgol Bangor |
|
1j Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Canol / Dwyrain |
Prifysgol Wrecsam Glyndŵr |
|
1k Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Canol / Dwyrain (yn dysgu ar draws C&D a Wrecsam) |
Prifysgol Wrecsam Glyndwr |
|
Nyrsio Anabledd Dysgu |
2a Gogledd Cymru |
Prifysgol Bangor |
2b De Ddwyrain Cymru a Powys |
Prifysgol De Cymru |
|
2c De Orllewin a Gorllewin Cymru |
Prifysgol Abertawe |
|
Dysgu Gwasgaredig: Nyrsio (Oedolion ac Iechyd Meddwl) |
3a Powys |
Prifysgol Bangor |
3b Hywel Dda |
Prifysgol Abertawe |
|
Nyrsio (Oedolion, Plant ac Iechyd Meddwl) |
4 Dysgu o Bell |
Prifysgol Bangor |
Bydwreigiaeth |
5a De Ddwyrain Cymru |
Prifysgol Caerdydd |
5b De Ddwyrain Cymru a Powys (2 allbwn) |
Prifysgol De Cymru |
|
5c De Orllewin Cymru |
Prifysgol Abertawe |
|
5d Gogledd Cymru (2 allbwn) |
Prifysgol Bangor |
|
Therapi Galwedigaethol |
6a De Ddwyrain Cymru (BSc Llawn Amser, Diploma Ôl-raddedig / MSc) |
Prifysgol Caerdydd |
6b De Ddwyrain Cymru (BSc Rhan Amser) |
Prifysgol De Cymru |
|
6c De Orllewin a Gorllewin Cymru |
Prifysgol Abertawe |
|
6d Gogledd Cymru a Powys |
Prifysgol Glyndŵr Wrecsam |
|
Ffisiotherapi |
7a De Ddwyrain Cymru (BSc Llawn Amser, Diploma Ôl-raddedig / MSc) |
Prifysgol Caerdydd |
7b De Ddwyrain Cymru (Rhan Amser) |
Prifysgol De Cymru |
|
7c De Orllewin a Gorllewin Cymru (BSc Llawn Amser, Diploma Ôl-raddedig / MSc) |
Prifysgol Caerdydd |
|
7d Gogledd Cymru (BSc Llawn Amser) |
Prifysgol Wrecsam Glyndŵr |
|
7e Gogledd Cymru (Diploma Ôl-raddedig / MSc) |
Prifysgol Bangor |
|
Radiograffeg Ddiagnostig |
8a De Ddwyrain Cymru |
Prifysgol Caerdydd |
8b De Orllewin a Gorllewin Cymru |
Prifysgol Caerdydd |
|
8c Gogledd Cymru |
Prifysgol Bangor |
|
Radiograffeg ac Oncoleg |
9 Cymru Gyfan |
Prifysgol Caerdydd |
Podiatreg |
10 Cymru Gyfan |
Prifysgol Metropolitan Caerdydd |
Therapi Lleferydd ac Iaith |
11a De, Gorllewin a Chanolbarth Cymru |
Prifysgol Metropolitan Caerdydd |
11b Gogledd Cymru |
Prifysgol Wrecsam Glyndŵr |
|
Dieteg |
12a De, Gorllewin a Chanolbarth Cymru |
Prifysgol Metropolitan Caerdydd |
12b Gogledd Cymru |
Prifysgol Wrecsam Glyndŵr |
|
Gwyddoniaeth Barafeddygol |
13a De, Gorllewin a Chanolbarth Cymru |
Prifysgol Abertawe |
13b Gogledd Cymru |
Prifysgol Glyndŵr Wrecsam |
|
Gwyddorau Biofeddygol |
14 Cymru Gyfan |
Prifysgol Metropolitan Caerdydd |
Ymarfer Adran Weithredu |
15a De Ddwyrain Cymru a Powys |
Prifysgol De Cymru |
15b De Orllewin a Gorllewin Cymru |
Prifysgol Abertawe |
|
15c Gogledd Cymru |
Prifysgol Glyndwr Wrecsam |
|
Hylendid a Therapi Deintyddol |
16a De, Gorllewin a Chanolbarth Cymru |
Prifysgol Caerdydd |
16b Gogledd Cymru |
Prifysgol Bangor |
|
Cymdeithion Meddyg |
17a De, Gorllewin a Chanolbarth Cymru |
Prifysgol Abertawe |
17b Gogledd Cymru |
Prifysgol Bangor |
|
Gwyddorau Gofal Iechyd- Rhaglen Hyfforddi Ymarferwyr |
18 Cymru Gyfan |
Prifysgol Abertawe |
Mae yna ychydig o gyrsiau na fydd yn cael eu cyflwyno gan yr un darparwyr sef gradd Ymarfer yr Adran Weithredu (ODP) ym Mhrifysgol Caerdydd a'r Radd Dysgu o Bell nyrsio yn yr Open University. Er na fydd carfannau newydd o'r myfyrwyr hyn, bydd y myfyrwyr presennol yn cael eu cofrestru. Mae profiad ac ansawdd dysgu'r myfyrwyr hyn hanfodol bwysig a byddwn yn gweithio'n agos gyda'r Prifysgolion a'r Byrddau Iechyd i sicrhau bod myfyrwyr yn cael addysg ddiogel o ansawdd gan raddio fel cofrestryddion, ar amser, i weithio yng Nghymru.
Dylech gyfeirio unrhyw ymholiadau mewn perthynas â'r broses gaffael hon at HEIW.EdCommissioning@wales.nhs.uk
Ar ôl derbyn cymeradwyaeth y Gweinidog, mae manylebau'r contract a'r gwahoddiad i tendro ddogfennau ar gyfer addysg gweithwyr iechyd proffesiynol wedi'u cyhoeddi'n swyddogol. Rydyn ni nawr allan i dendro ar y broses gomisiynu fwyaf rydyn ni'n ei chynnal yn AaGIC.
Yn y diwrnod ymgysylltu â'r farchnad a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2019, nododd AaGIC ei weledigaeth arfaethedig ar gyfer contractau addysg proffesiynol newydd GIG Cymru. Roedd y wybodaeth a ddarparwyd yn y digwyddiad hwnnw'n adlewyrchu'r adolygiad strategol o addysg iechyd a gynhaliwyd gan AaGIC a'i gynghorwr penodedig (KPMG) dros y deuddeng mis blaenorol.
Yn y digwyddiad ac yn y misoedd canlynol, aeth AaGIC ati i ymgysylltu ymhellach â'r holl randdeiliaid allweddol, gan gynnwys darparwyr addysg, Byrddau Iechyd Lleol, cleifion a myfyrwyr. Fel rhan o'n hymgysylltiad â rhanddeiliaid, gofynnwyd i bawb â diddordeb ein herio ar rinweddau a dichonoldeb ein manyleb contract a'r model gwasanaeth arfaethedig.
Rydym wedi ystyried y sylwadau a dderbyniwyd gennym hyd yma gan ein rhanddeiliaid allweddol. Mae'r sylwadau hyn wedi ein helpu i lywio ein cynigion ymhellach, gan gynnwys gwneud rhai newidiadau sy'n adlewyrchu'n well anghenion darparwyr addysg, myfyrwyr, gwasanaethau a chleifion y bwriadwn eu cynnig yn yr ymrwymiad terfynol sydd i ddod ym mis Medi.
Rydym wedi nodi ein hamserlen caffael arfaethedig uchod, ond rydym yn gwerthfawrogi y gallai hyn newid o ystyried yr amseroedd digyffelyb hyn yng ngoleuni pandemig Covid-19. Os bydd yr amserlen arfaethedig yn newid, byddwn, wrth gwrs, yn hysbysu'r farchnad ynghyd â'n rhanddeiliaid allweddol eraill.
Bydd AaGIC yn cynnal digwyddiad rhith ymgysylltu â rhanddeiliaid ym mis Medi ar gyfer cynigwyr â diddordeb posibl. Bydd y digwyddiad hwn yn cymryd lle'r digwyddiadau sioeau teithiol a oedd i fod i ddigwydd ledled Cymru ym mis Mawrth 2020 a gafodd eu canslo yn anffodus oherwydd pandemig Covid-19.
Bydd y digwyddiad hwn felly yn gyfle i AaGIC rannu'r themâu a'r strategaeth allweddol a ddiweddarwyd ar gyfer pob cynigydd posibl cyn lansio'r broses gaffael.
Mae hysbysiad pin wedi'i gyhoeddi drwy GwerthwchiGymru i hysbysebu'r digwyddiad.
O ganlyniad i effaith Coronavirus rydym wedi cael ein gorfodi i ohirio’r amserlen wreiddiol ar gyfer tendro'r Contractau Addysg Proffesiwn Iechyd.
Yn wreiddiol, roedd hyn i fod i ddigwydd ym mis Mai / Mehefin 2020. Gellir cadarnhau, yn seiliedig ar yr amserlen wedi'i diweddaru ar gyfer y broses dendro, mae'r dyddiad pan fyddwn yn mynd yn fyw yn parhau i fod yn Medi 2022.
Oherwydd y sefyllfa bresennol gyda COVID-19, mae AaGIC a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru wedi penderfynu gohirio'r digwyddiadau Ymgysylltu â'r Farchnad Derfynol a oedd fod gael eu cynnal yn y lleoliadau canlynol:
Byddwn mewn cysylltiad i aildrefnu y ddigwyddiadau yn ystod y misoedd nesaf.
Mae AaGIC yn comisiynu ystod eang o ddarpariaeth addysg israddedig ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol megis nyrsis, ffisiotherapi a lleferydd ac iaith. Mae'r contractau presennol i fod i ddod i ben ym mis Gorffennaf 2021. Er mwyn paratoi ar gyfer hyn a dyfarnu contractau newydd, rydym wedi bod yn adolygu'r hyn y mae arnom angen y contractau newydd i'w gynnwys er mwyn sicrhau bod addysg gofal iechyd yn diwallu anghenion cleifion a gwasanaethau yn y dyfodol.
Fel rhan o'r adolygiad hwn, ac er mwyn sicrhau bod y contractau yn cyd-fynd orau â'r anghenion hyn, ymgysylltwyd â KPMG i roi cyngor annibynnol ar ddarpariaeth a chyfluniad addysg yn y dyfodol. Er mwyn llywio eu gwaith, ymgysylltodd KPMG â 36 o sefydliadau a dros 120 o unigolion. Diolch i bawb a gymerodd ran yn y broses o ymgysylltu.
Ym mis Hydref, cyn yr adroddiad terfynol, rhannodd KPMG y themâu allweddol sy'n codi o'r adolygiad gyda ni. Mae'r rhain yn cynnwys: 'lotiau' yr addysg yn seiliedig ar anghenion y boblogaeth ledled Cymru, gwahanol fodelau darparu gan gynnwys dysgu o bell a gwasgaredig, gofynion rhyngbroffesiynol penodol a newidiadau i'r cymorth i fyfyrwyr sydd mewn Lleoliadau.
Mae KPMG bellach wedi cyhoeddi eu hadroddiad terfynol sy'n cynnwys 22 o argymhellion. Bydd y rhain ynghyd â'r themâu allweddol a nodwyd yn llunio'r contract addysg proffesiynol newydd ar gyfer iechyd yng Nghymru gan ganolbwyntio ar:
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio trwy’r adroddiad i nodi lle mae gwaith eisoes yn cael ei wneud ar y themau hyn ac a oes angen i ni wneud gwaith pellach. Ar ôl i hyn gael ei wneud byddwn yn rhannu ein darganfyddiadau a’r adroddiad gyda Bwrdd a rhanddeiliaid AaGIC.
Mae mwy o ddigwyddiadau i randdeiliaid hefyd ar y gweill gyda darpar gynigwyr, ymddiriedolaethau a byrddau iechyd, a myfyrwyr o bob prifysgol i sicrhau bod y contract addysg newydd yn adlewyrchu blaenoriaethau a rennir ac yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth.
AaGIC i gwrdd â myfyrwyr i'w diweddaru ar y themâu allweddol a chasglu eu hadborth ar y themâu.
Digwyddiadau ymgysylltu caffael cyn lansio'r broses gaffael i gyflwyno'r strategaeth addysg proffesiynol i israddedigion i bob darpar gynigiwr.
Rhestrir aelodau allweddol o dîm y prosiect isod:
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chaffael y contract hwn, cysylltwch â Gemma Roscrow neu Francesca Havard Evans Ar gyfer ymholiadau AaGIC, cysylltwch â Martin Riley.
DS. Ym mis Awst, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ymestyn Bwrsariaeth y GIG am flwyddyn arall tra'i bod yn ystyried trefniadau ariannu tymor hwy. O ganlyniad i hyn, penderfynwyd ymestyn amserlen yr adolygiad hwn. Bydd y broses gaffael ar gyfer y contractau newydd yn dechrau bellach ym mis Mai 2020 i ganiatau amser ar gyfer canlyniad adolygiad bwrsariaeth y GIG ac unrhyw newidiadau i'r system ariannu a allai effeithio ar fanyleb y tendr.
Ddiwedd mis Tachwedd cyhoeddodd Llywodraeth Cymru estyniad pellach i'r pecyn Bwrsariaeth GIG Cymru ar gyfer dwy garfan ychwanegol ar gyfer y blynyddoedd academaidd 2021/2022 a 2022/2023. Mae'r cyhoeddiad hwn yn rhoi sicrwydd y bys Cymru, am y tair blynedd academaidd nesaf, yn parhau i ariannu a chefnogi gweithlu dyfodol y GIG.