Neidio i'r prif gynnwy

Argymhellion KPMG i'w hystyried

  1. AaGIC a darparwyr addysg i ystyried eu rôl yn cefnogi nyrsys newydd gymhwyso a chofrestredig, bydwragedd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ac a fyddai dull cyson ar draws AaGIC yn briodol ac yn cael effaith gadarnhaol.
  2. AaGIC i ystyried sut mae cyllid ymarfer dysgu yn cael ei ddarparu i ddarparwyr addysg a darparwyr lleoliadau ar draws pob rhaglen. Yn benodol, cysylltu ag argymhelliad 6, a'r nodau i gynyddu addysg aml-broffesiynol ac ehangder y ddarpariaeth o leoliadau i gynnwys mwy o brofiad sylfaenol a chymunedol.
  3. AaGIC i barhau i ystyried yn rheolaidd sut mae barn myfyrwyr yn llywio ei waith, gan gynnwys ansawdd y ddarpariaeth addysg.
  4. AaGIC i ystyried cymryd rôl arweiniol wrth hwyluso cydweithio agosach rhwng darparwyr addysg a gwasanaethau iechyd a gofal. Dylai hyn sicrhau bod gofynion cyfnewidiol, yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, yn cael eu hystyried wrth ddatblygu rhaglenni addysg ac anghenion gweithlu a gomisiynir.
  5. AaGIC i ystyried cymryd rôl strategol wrth sicrhau bod lleoli rhaglenni addysg ledled Cymru yn cynnwys lleoliadau sy'n ehangach na gofal eilaidd. Dylai hyn ddiwallu anghenion amlbroffesiynol y gwasanaeth yn ogystal â'r nodau a nodir yn 'Cymru Iachach'.
  6. AaGIC i ystyried y rolau strategol, cytundebol ac ariannol sydd ganddi ar hyn o bryd a datblygu'r rhain ymhellach er mwyn hwyluso'r broses o sicrhau bod darparwyr addysg a darparwyr lleoliadau yn cyflawni profiad lleoli ehangach, mewn cydweithrediad â Phartneriaeth Byrddau Rhanbarthol.
  7. AaGIC, darparwyr addysg, Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau i ystyried y sgiliau digidol presennol ac yn y dyfodol sydd eu hangen gan y gweithlu iechyd a gofal a'u hymgorffori o fewn rhaglenni addysg.
  8. AaGIC a Llywodraeth Cymru i ystyried datblygu cynllun gweithlu gofal iechyd proffesiynol strategol tymor hwy, mewn partneriaeth â Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau a darparwyr addysg.
  9. AaGIC i ystyried datblygu ei dull gweithredu gwerth ychwanegol er mwyn ystyried gwerth ehangach addysg ac adenillion ar fuddsoddiad i lywio'r gwaith o gomisiynu.
  10. AaGIC i ystyried dull rhanbarthol o gomisiynu i sicrhau bod gan bob rhanbarth yng Nghymru ddarpariaeth addysg, ar gyfer y rhaglenni hynny lle mae'r niferoedd a gomisiynir yn ddichonadwy ac yn adlewyrchu'r angen yn y rhanbarth hwnnw. Dylai AaGIC ganiatau i ddarpar ddarparwyr newydd a phresennol ddangos sut y mae eu rhaglenni arfaethedig yn bodloni'r galw rhanbarthol am weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y dyfodol.
  11. AaGIC i ystyried dichonoldeb comisiynu darparwyr ychwanegol ar gyfer y rhaglenni sydd ag un darparwr yng Nghymru ar hyn o bryd.
  12. AaGIC i ystyried ei wneud yn ofynnol i'r darparwyr addysg hynny sydd yn unig ddarparwyr rhaglen yng Nghymru ddangos sut y mae eu rhaglenni yn cyflenwi nifer ddigonol o weithwyr proffesiynol cymwysedig i'r galw am wasanaethau o fewn Cymru gyfan.
  13. AaGIC i ystyried sicrhau bod mwy o raglenni rhan-amser a rhaglenni byrrach ar gael ledled Cymru a chynyddu nifer y lleoedd a gomisiynir ar y rhaglenni hyn, yn unol â chynlluniau gweithlu rhanbarthol ac argaeledd myfyrwyr rhan-amser.
  14. AaGIC, Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau a Llywodraeth Cymru i ystyried datblygu dull gweithredu safonol a chyfartal ar gyfer y trefniadau ariannu ar gyfer yr holl raglenni rhan-amser, gan gynnwys costau cyflenwi 'ôl-lenwi'.
  15. AaGIC a Llywodraeth Cymru i ystyried y defnydd cynyddol o brentisiaethau mewn proffesiynau iechyd a gofal os yw'n bodloni'r 'Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol'.
  16. AaGIC i ystyried mynnu bod mwy o hyblygrwydd yn cael ei ymgorffori yn y rhaglenni a gomisiynir, megis cymwysterau dyfarniad ymadael, rhaglenni cyfun posibl neu ddulliau eraill y gall darparwyr addysg fod yn agored i'w datblygu, er mwyn caniatau llwybrau gyrfaol i'w cael eu datblygu. Dylid ystyried hyn gyda'r gofynion ar gyfer 'Cymru Iachach' a'r 'Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol'.
  17. AaGIC i ystyried ei rôl ar draws holl lwybr gyrfa gweithwyr gofal iechyd proffesiynol drwy gomisiynu amrywiaeth eang o raglenni cyn ac ar ôl cofrestru ar draws gyrfaoedd gweithwyr proffesiynol a chyda chymysgedd o lefelau cymwysterau, er mwyn bodloni gofynion y gweithlu yn y dyfodol . Dylai AaGIC weithio gyda Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau, Llywodraeth Cymru a darparwyr addysg wrth gynllunio'r anghenion addysg i gefnogi llwybrau gyrfaol a fframweithiau gyrfa proffesiynol gofal iechyd.
  18. AaGIC i barhau i asesu ac ystyried, mewn partneriaeth â darparwyr addysg, y potensial a'r awydd i ddarparwyr addysg ddarparu rhaglenni gofal iechyd ychwanegol.
  19. AaGIC i ystyried parhau i ofyn am sawl cymeriant ar gyfer y rhaglenni sy'n eu darparu ac ystyried a fyddai cymeriant lluosog ar gyfer rhaglenni eraill yn fuddiol.
  20. AaGIC i ystyried cymryd rôl arweiniol, mewn partneriaeth â darparwyr addysg, Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau, i sefydlu dull gwell o ddarparu addysg ryng-broffesiynol sy'n hwyluso'r broses o gyflwyno sgiliau cyffredinol a gofynion addysg gyffredin graidd ar draws proffesiynau. Dylai AaGIC ystyried ei wneud yn ofynnol i ddarparwyr addysg ddarparu isafswm neu safon o weithgarwch rhyngbroffesiynol fel rhan o'r rhaglen a gomisiynir ac annog darparwyr addysg i arloesi a datblygu hyn ymhellach.
  21. AaGIC, Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau i ystyried ymgorffori'r sgiliau iaith Gymraeg sydd eu hangen ar y gweithlu yn eu cynlluniau ar gyfer y gweithlu.
  22. AaGIC i ystyried darpariaeth iaith Gymraeg fel rhan o'i dull comisiynu, o bosibl yn gosod gofynion neu dargedau ar gyfer cyfran y myfyrwyr sy'n gymwys o raglenni a gomisiynir sydd â lefel ddiffiniedig o sgil yn yr iaith Gymraeg. Gallai AaGIC fonitro hyn ac addasu'r gofyniad neu'r targed yn seiliedig ar wybodaeth a fydd ar gael gan Fyrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd am nifer y gweithwyr proffesiynol sy'n siarad Cymraeg y mae'r gwasanaeth yn gofyn amdanynt.