Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.

Lleoliadau ôl-raddedig

Er mwyn mynd i'r afael â'r ôl-groniad o optometryddion sy'n aros am leoliadau clinigol ôl-raddedig, mae Practisau Hyfforddi Uwch (ATPs) wedi cael eu sefydlu.

Eu nod yw cynyddu capasiti, a mynediad at, leoliadau clinigol ôl-raddedig o safon.

Bydd y lleoliadau hyn yn meithrin datblygiad proffesiynol drwy gyfleoedd hyfforddi mewn practisau optometreg cymunedol cefnogol ledled Cymru. Byddant yn darparu profiad clinigol cynhwysfawr, ymarferol ac arweiniad proffesiynol.  

Mae ATPs yn nodi pennod newydd gyffrous yn natblygiad proffesiynol optometryddion ledled Cymru.

Ein ffocws cychwynnol fu cynyddu hygyrchedd lleoliadau rhagnodi annibynnol ledled Cymru.

Wrth i ni edrych tua'r dyfodol, ein nod yw archwilio cyfleoedd i gynnig cyfleoedd hyfforddi ôl-raddedig ac amlbroffesiynol eraill.  

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn Bractis Hyfforddi Uwch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch argaeledd lleoliadau ôl-raddedig, cysylltwch â ni yn HEIW.Optometryatp@wales.nhs.uk.

 

Newyddion 

Cylchlythyr Practisau Hyfforddi Uwch Gwanwyn 2025

Cylchlythyr Practisau Hyfforddi Uwch Hydref 2025