Neidio i'r prif gynnwy

Bwrsariaeth y GIG

Blackboard with bwrsariaeth written on it

Diolch am ymweld â Thudalen Fwrsariaeth AaGIC. Rydym yn diweddaru ein gwybodaeth yn rheolaidd ac mae'r dudalen we bwrpasol hon yn cadw'r holl wybodaeth berthnasol am gynllunbwrsariaeth GIG Cymru a gydlynir gan AaGIC mewn cydweithrediad â NWSSP, Prifysgolion a Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau'r GIG.

Mae gan AaGIC gyfeiriad e-bost y gellir ei ddefnyddio ar gyfer ymholiadau penodol a derbyn gwybodaeth am delerau ac amodau'r fwrsariaeth.

Cysylltwch â ni. HEIW.bursary@wales.nhs.uk.   

Gallwch hefyd gysylltu ag AaGIC. EDCommissioning@wales.nhs.uk am ymholiadau mwy cyffredinol ynglŷnâ'r fwrsariaeth.

O bryd i'w gilydd, rydym hefyd yn postio dogfennau a gwybodaeth newydd ynghyd â diweddariad newyddion deufisol. Mae'r holl ddogfennau pwysig cyfredol a dolenni perthnasol i'w gweld isod.

Os oes gennych newid mewn amgylchiadau neu os ydych yn credu na allwch gydymffurfio â Thelerau ac Amodau'r Fwrsariaeth, cysylltwch HEIW.bursary@wales.nhs.uk  Byddwn yn gallu eich cynghori os bydd angen i chi gwblhau Adolygiad. Gellir llenwi'r ffurflen Adolygu drwy ddefnyddio'r ffurflen adolygu gyswllt hon.

Os ydych yn ystyried gwneud cais am Fwrsariaeth, naill ai'n llawn amser neu'n rhan-amser, gellir dod o hyd i fanylion llawn ar dudalennau gwe Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru sy'n asesu ceisiadau am gynllun bwrsariaeth y GIG. Cofiwch wirio'r Telerau ac Amodau os yw eich cwrs yn gymwys ar gyfer y fwrsariaeth.

Rydym hefyd yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ddarparu rhybuddion pan fydd gwybodaeth newydd neu pan fydd diweddariadau ar gael.