Gall meddygon dan hyfforddiant wneud cais am absenoldeb astudio wedi'i ariannu. Mae polisïau wedi'u cynllunio i sicrhau bod mynediad at absenoldeb astudio yn deg, yn gyfartal ac yn gyson i bob meddyg dan hyfforddiant yng Nghymru.
Er mwyn hawlio treuliau absenoldeb astudio, mae angen i chi gyflwyno hawliadau trwy'r cyfrif E-Dreuliau. Gan fod hyfforddeion yn cael eu cyflogi gan y Cyflogwr Arweiniol Sengl yng Nghymru, mae canllawiau pellach ar y broses hon a chymorth gyda hyn ar gael ar wefan PCGC.
Ar gyfer hyfforddeion gofal sylfaenol ac eilaidd (neu arbenigedd), caiff absenoldeb astudio ei gymeradwyo gan adran addysg feddygol eich bwrdd iechyd lleol. Gallwch ddod o hyd i restr o gysylltiadau mewn canolfannau addysg.
Ar gyfer meddygon teulu dan hyfforddiant mewn swyddi practis, mae absenoldeb astudio yn cael ei gymeradwyo gennym ni.
Dewiswch y polisi absenoldeb astudio isod sy'n berthnasol i'ch cam presennol o hyfforddiant.
Apeliadau
Os yw Meddyg Preswyl yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad ar ei gais am absenoldeb astudio, dylai ofyn yn ffurfiol am adolygiad o'r penderfyniad drwy ysgrifennu at y Tîm Rheoli Hyfforddiant Meddygon Teulu heiw.gptraining@wales.nhs.uk. Os na ellir datrys y mater, yna dylai'r Meddyg Preswyl gyflwyno apêl gan ddefnyddio'r ffurflen apeliadau ddigidol (a ddangosir isod) gan nodi'n glir y rheswm dros yr apêl ac unrhyw dystiolaeth ategol.
Bydd panel apeliadau annibynnol a gynhelir unwaith y mis yn adolygu'r holl apeliadau a gyflwynir a bydd yn ymdrechu i wneud hynny o fewn 20 diwrnod gwaith i hysbysiad o apêl. Bydd penderfyniad y panel a'r rheswm dros wneud y penderfyniad hwnnw yn cael eu cadarnhau'n ysgrifenedig i'r Meddyg Preswyl o fewn pum diwrnod gwaith o benderfyniad y Panel Apeliadau. Mae penderfyniad y panel yn derfynol.