Neidio i'r prif gynnwy

Meddygaeth

Beth yw Meddyg?

Mae Meddyg yn rhywun sy’n cynnal neu’n adfer iechyd pobl boed hynny’n iechyd corfforol neu feddyliol, trwy ymarfer meddygaeth. Bydd ef neu hi yn rhoi diagnosis o afiechydon, anhwylderau, anafiadau, poen neu gyflyrau eraill, ac yn eu trin. Maent yn canolbwyntio ar y claf, ac yn hyrwyddo, cynnal neu adfer iechyd trwy astudio, diagnosio a thrin afiechydon, anafiadau a namau corfforol a meddyliol eraill.

Ai gweithio fel Meddyg yw’r yrfa iawn imi?

Mae amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa i feddygon ar ôl ymgymhwyso, o weithio gyda chleifion mewn nifer o feysydd arbenigol i weithio mewn labordai a gwneud ymchwil.

Mae’n rhaid i feddygon fod â:

  • Sgiliau cyfathrebu da
  • Ymagwedd ofalgar a diddordeb mewn pobl
  • Y gallu i weithio gydag eraill
  • Meddwl ymchwilgar
  • Amynedd
  • Empathi
  • Y gallu i ddelio â phwysau a gwneud penderfyniadau
  • Penderfyniad

Beth mae Meddygon yn ei wneud?

Mae gwaith Meddygon yn amrywio’n fawr gan ddibynnu ar yr arbenigedd, ond fel arfer maent yn gwneud y canlynol:

  • Asesu, diagnosio, a thrin ystod eang o gyflyrau, o broblemau cyffredin i gyflyrau mwy difrifol, gan gynnwys problemau iechyd meddwl;
  • Dehongli canlyniadau profion diagnostig;
  • Presgripsiynu a darparu triniaeth i bobl sy’n sâl;
  • Darparu gofal dilynol, cynnal atgyfeiriadau a rhoi canlyniadau labordy i gleifion;
  • Gweithio gyda gweithwyr gofal proffesiynol eraill er budd cleifion a’u teuluoedd

Ble mae Meddygon yn gweithio?

Gall Meddygon weithio mewn nifer o leoliadau, gan gynnwys:

  • Ysbytai – wardiau, adrannau damweiniau ac achosion brys a labordai
  • Practisiau meddygon teulu
  • Yn y gymuned
  • Yn y lluoedd arfog

Faint o arian mae Meddygon yn ei ennill?

Ewch i’n hadran Cyflog a Buddion am ragor o wybodaeth.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i feddygon gamu ymlaen yn eu gyrfa?

Unwaith ichi ymgymhwyso ac ennill ychydig o brofiad clinigol, mae nifer o ddewisiadau hyfforddiant ar gael, gan gynnwys:

  • Ymgynghorydd mewn arbenigedd *
  • Meddyg Teulu
  • Meddygaeth academaidd

*Mae ystod eang o feysydd Meddygol arbenigol, o dan y categorïau canlynol:

Sut ydw i’n dod yn feddyg?

Oes angen gradd arna i?

Oes. Os ydych chi am weithio fel meddyg, bydd gofyn ichi gwblhau cwrs sydd wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Ymhle alla i hyfforddi yng Nghymru?

Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe
Oes cyllid ar gael?

Oes. Am ragor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael a’ch hawl iddo, ewch i Wasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr.

Sut mae ennill profiad?

I ddysgu am brofiad gwaith a chyfleoedd i wirfoddoli yn GIG Cymru, ewch i'n hadran Gwaith.

Sut y galla i ymgeisio am swydd? Mae swyddi gwag yn GIG Cymru yn cael eu hysbysebu ar wefan NHS Jobs. Ewch i’r adran Gwaith am ragor o wybodaeth.

Dolenni defnyddiol:

Dod yn feddyg

Astudio Meddygaeth

Arbenigo

Cyngor am yrfaoedd ym maes meddygaeth