Neidio i'r prif gynnwy

Gwyddor Gofal Iechyd

Mae’r tîm gwyddor gofal iechyd yn gwneud cyfraniad mawr at y gwaith o atal, diagnosio a thrin nifer fawr o gyflyrau meddygol, ac at helpu cleifion i wella. Ar y cyd â phroffesiynau eraill ym maes iechyd, mae staff gwyddor gofal iechyd yn aelodau pwysig iawn o’r tîm gofal iechyd cyfoes.

Mae gwyddonwyr gofal iechyd yn hanfodol i’r gwaith o archwilio a thrin cleifion - o wyddonwyr biofeddygol sy’n darparu gwybodaeth ddiagnostig am waed a meinwe, i ddarlifiedyddion clinigol sy’n galluogi llawfeddygon i berfformio llawdriniaeth gymhleth ar y galon a’r ysgyfaint. Mae gwyddonwyr gofal iechyd yn dylanwadu ar ryw 80% o benderfyniadau clinigol ac maent yn cael eu cydnabod fwyfwy am eu rôl bwysig iawn wrth ddarparu gofal iechyd.

Mae’r rhan fwyaf o wyddonwyr gofal iechyd hefyd yn gwneud ymchwil, datblygu dulliau newydd o ddarganfod a monitro afiechydon, dylunio offer newydd a chyflwyno triniaethau.

Mae datblygiadau technolegol yn golygu bod hwn bellach yn un o’r meysydd mwyaf cyffrous, heriol a gwerth chweil yn y GIG.

Mae llawer o wyddonwyr gofal iechyd yn gweithio’n uniongyrchol gyda chleifion ar ryw adeg yn eu gyrfaoedd. Mae gwyddonwyr gofal iechyd yn gweithio yn un o’r meysydd canlynol:

Yng Nghymru, rydym hefyd yn cynnwys Radiograffwyr (Diagnostig a Therapiwtig) ac Ymarferwyr Adrannau Llawdriniaeth o fewn Gwyddor Gofal Iechyd, gan gyfeirio atynt gyda’u teitlau proffesiynol:

Llwybrau Hyfforddiant ym maes Gwyddor Gofal Iechyd

Mae Moderneiddio Gyrfaoedd Gwyddonol wedi gweddnewid gyrfaoedd a hyfforddiant ym maes gwyddor gofal iechyd.  Wedi ei gyplysu â hyfforddiant academaidd, mae hyfforddiant bellach yn fwy cyson ac mae ffocws cryfach ar y claf. Mae hyn yn galluogi hyfforddeion ar bob lefel i ennill profiad ymarferol ac atyniadol yn y gweithle cyn gynted ag y byddant yn dechrau.

Mae llwybrau i wyddor gofal iechyd yn cynnwys:

Am ragor o wybodaeth, ewch i: