Mae staff gwasanaethau llieiniau yn sicrhau bod gan adrannau meddygol ledled y GIG ddigon o lieiniau glân, fel cynfasau a thyweli.
Mae eu gwaith yn rhan bwysig o ofal iechyd gan fod llieiniau brwnt sydd heb eu glanhau’n iawn yn gallu achosi i heintiau ledu.
Gall gwaith cynorthwyydd llieiniau fod yn anodd yn gorfforol. Mae nifer o rolau mewn gwasanaethau llieiniau. Mae’r rhain yn cynnwys Cynorthwyydd Gwasanaethau Llieiniau, Goruchwylwyr Gwasanaethau Llieiniau a Rheolwyr Gwasanaethau Llieiniau.
Mae’n rhaid i staff gwasanaethau llieiniau fod:
Hefyd, bydd angen
Mae nifer o wahanol dasgau y mae rhaid eu gwneud yn yr adran lieiniau, a gall y gwaith amrywio gan ddibynnu ar natur y swydd a lle rydych chi’n gweithio.
Fel cynorthwyydd llieiniau, mae’n bosibl y byddwch yn:
Mae rhai o staff gwasanaethau llieiniau hefyd yn defnyddio peiriant gwnïo neu beiriant marcio i wneud y canlynol:
Yn yr ysbytai hynny lle mae golchdy ar y safle, mae staff gwasanaethau llieiniau yn:
Fel goruchwyliwr gwasanaethau llieiniau neu arweinydd tîm, byddwch yn goruchwyliwr gwaith tîm o oruchwylwyr gwasanaethau llieiniau.
Fel rheolwr gwasanaethau llieiniau, byddwch yn sicrhau bod y gwasanaethau golch yn bodloni gofynion ansawdd. Bydd disgwyl ichi wneud tasgau rheoli eraill hefyd, megis:
Bydd rhai cynorthwywyr gwasanaethau llieiniau yn gweithio mewn safle lieiniau bwrpasol, bydd rhai gweld cleifion a bydd eraill yn gweithio mewn golchdai ar wahân ac ni fyddant yn gweld cleifion yn aml, os o gwbl.
Yn y GIG, mae cynorthwyydd gwasanaethau llieiniau yn cael ei dalu ar Fand 2. Ewch i’n tudalen am Dâl a Buddion am ragor o wybodaeth.
Pan fyddwch yn dechrau ar eich gwaith fel cynorthwyydd gwasanaethau llieiniau, cewch yr hyfforddiant sydd ei angen arnoch. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyniad i’r adran ac i’w systemau a’i chyfarpar, ynghyd â hyfforddiant iechyd a diogelwch a thrafod â llaw.
Bydd cyflogwyr yn disgwyl i weithwyr ennill cymwysterau os ydynt am fwrw ymlaen. Gyda chymwysterau a phrofiad, gallai cynorthwyydd gwasanaethau llieiniau ddod yn arweinydd tîm a goruchwylio tîm o gynorthwywyr. Gyda phrofiad helaeth ac hyfforddiant pellach, gall ddod yn rheolwr, â chyfrifoldeb dros adran neu ardal.
Efallai y cewch y cyfle i ennill cymwysterau mewn pynciau fel gwasanaethau golch er enghraifft.
Does dim gofynion penodol ar gyfer bod yn gynorthwywyr gwasanaethau llieiniau. Mae cyflogwyr yn disgwyl sgiliau rhifedd a llythrennedd da. Mae’n bosibl y byddant yn gofyn am TGAU mewn Saesneg a Mathemateg. Mae hefyd yn bosibl y bydd cyflogwyr yn gofyn am gymwysterau perthnasol fel NVQ mewn gwasanaethau gwesty neu ofal iechyd.
Yn ogystal, mae’n bosibl y bydd cyflogwyr yn gofyn am brofiad o waith llieiniau neu olch neu o ofal iechyd. Gall hyn fod yn waith cyflogedig neu wirfoddol. Bydd rhai cyflogwyr yn gofyn am sgiliau fel y gallu i ddefnyddio peiriant gwnïo hefyd.
I ddysgu am brofiad gwaith a chyfleoedd I wirfoddoli yn GIG Cymru, ewch I’n hadran Gwaith.
Mae holl swyddi gwag GIG Cymru wedi’u hysbysebu ar NHS Jobs. Ewch i’r adran Gwaith i gael rhagor o wybodaeth.