Proffil Gyrfaoedd Optegydd Lens Cyswllt
Beth yw Optegydd Lens Cyswllt?
Mae optegydd lens cyswllt (CLO) yn arbenigo mewn gosod lensys cyswllt a sicrhau bod pobl yn gofalu am eu lensys a'u llygaid. Maent wedi'u hyfforddi i ddarparu'r lensys cyswllt mwyaf addas ar gyfer eu cleifion, ac i fonitro iechyd llygaid unigolyn ar ôl eu ffitio i sicrhau nad oes unrhyw gymhlethdodau'n digwydd.
Yn ogystal â chyflenwi lensys cyswllt, gall optegydd lens cyswllt hefyd fod yn gymwys mewn Mân Gyflyrau Llygaid, fel y gallant ofalu am bobl sy'n cyflwyno ystod o broblemau llygaid acíwt.
Disgwylir i optegwyr lens cyswllt fod â lefel uchel o arbenigedd mewn anatomi ocwlaidd, a chymhlethdodau sy'n gysylltiedig â lensys cyswllt a chynnal gwybodaeth gyfoes am yr arferion a'r cynhyrchion cyfredol gorau.