Mae gwasanaethau amrywiol a modern Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru’n cael eu teilwra ar gyfer anghenion amgylcheddol a meddygol gwahanol pob cymuned.
Mae’r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru wedi’i wasgaru dros 20,640 kilometer, sy’n cwmpasu ardaloedd amrywiol fel: ardaloedd gwledig heddychlon, trefi gwyliau prysur a dinasoedd mawr.
Mae’r Ymddiriedolaeth yn gweithredu o 90 gorsaf ambiwlans, tair canolfan reoli, a phum gweithdy cerbydau sy’n cynnal beiciau, ceir ymateb cyflym, ambiwlansau’r rheng flaen a hofrenyddion.
Hefyd, mae ganddynt Goleg Hyfforddi Cenedlaethol er mwyn sicrhau bod eu staff yn parhau i fod ar flaen y gad ac yn derbyn datblygiad proffesiynol yn rheolaidd.
Felly mae gan y tîm ambiwlans rôl hanfodol, wrth gyrraedd digwyddiadau brys neu gludo cleifion i apwyntiadau ysbyty wedi’u trefnu.