Mae therapyddion dwysedd uchel yn defnyddio offer a thechnegau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi pobl i oresgyn problemau cymhleth sy'n gysylltiedig ag ystod o gyflyrau iechyd meddwl cyffredin fel pryder, iselder anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD) ac anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD).
Rhan fawr o'r rôl yw asesu addasrwydd unigolion ar gyfer ymyriadau seicolegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth, llunio a gweithredu triniaeth a gwerthuso cynnydd. Mae therapyddion dwysedd uchel yn gweld unigolion wyneb yn wyneb neu'n hwyluso grwpiau therapiwtig. Maent hefyd yn cynnig cyngor arbenigol i broffesiynau eraill ar ddarparu modelau therapiwtig penodol a darpariaeth gwasanaeth.
Mae'n ofynnol i therapyddion dwysedd uchel ymgymryd â hyfforddiant mewn un neu fwy o'r therapïau dwysedd uchel gan gynnwys therapi ymddygiad gwybyddol seicotherapi rhyngbersonol ar gyfer iselder, cwnsela ar gyfer iselder a therapi gwybyddol sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar.
Bydd therapydd dwysedd uchel yn ymgymryd â goruchwyliaeth glinigol, yn ogystal â darparu goruchwyliaeth glinigol i aelodau eraill o'r tîm.