Neidio i'r prif gynnwy

Seicotherapydd (Seicotherapydd Plant, Seicotherapydd Teuluol a Systemig)

I gael gwybodaeth am yrfaoedd mewn celf, drama a therapi cerdd, gweler Gyrfaoedd Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd AHP) - AaGIC

Mae seicotherapyddion yn gweithio gyda phlant, oedolion a theuluoedd i asesu a thrin ystod o faterion iechyd emosiynol, cymdeithasol neu iechyd meddwl, megis materion ymddygiad, heriau cyffredin fel pryder ac iselder. Maent hefyd yn gweithio gyda materion mwy difrifol neu hirsefydlog, fel seicosis neu ddiagnosis anhwylder personoliaeth.  

Gan arbenigo mewn un neu fwy o ddulliau seicotherapiwtig fel seicotherapi seicodynamig, seicotherapi dyneiddiol, therapi gwybyddol a therapi ymddygiadol, mae seicotherapyddion yn archwilio meddyliau, teimladau ac ymddygiadau, gan anelu at hwyluso newid cadarnhaol a gwella sgiliau ymdopi. Bydd y therapi hwn yn rhoi lle i fynegi teimladau a chael cipolwg ddyfnach ar y materion y maent yn eu hwynebu. Gallai therapi fod ar sail un-i-un neu mewn sesiynau grŵp.

I ymarfer fel seicotherapydd mae angen goruchwyliaeth barhaus i gefnogi hunan-fyfyrio, i geisio ac ymateb i adborth, a datblygu gwybodaeth a sgiliau proffesiynol. Efallai y byddant hefyd yn eu tro yn goruchwylio aelodau'r tîm.