Neidio i'r prif gynnwy

Seicolegydd Cynorthwyol

Mae seicolegwyr cynorthwyol yn ymgymryd ag amrywiaeth o rolau yn cefnogi a gwella gofal seicolegol proffesiynol, gan ddarparu asesiad seicolegol ac ymyriadau seicolegol Maent hefyd yn gweithio gyda gofalwyr, perthnasau ac eraill sy'n ymwneud â gofal person. Mae seicolegwyr cynorthwyol yn derbyn goruchwyliaeth barhaus gan seicolegydd cymwys gyda'r nod o annog hunan-fyfyrio a datblygu gwybodaeth a sgiliau proffesiynol. Maent fel arfer yn gweithio ar draws gwasanaethau seicoleg y GIG gan gynnwys gyda phobl o bob oed fel oedolion hŷn, gwasanaeth iechyd meddwl babanod amenedigol neu mewn sefydliadau a gwasanaethau sy'n cefnogi unigolion ag anghenion ychwanegol.