Mae Nyrs Anabledd Dysgu yn cefnogi lles a chynhwysiant cymdeithasol pobl ag anableddau dysgu i gyrraedd eu llawn botensial, cyflawni ansawdd bywyd da, a chael eu gwerthfawrogi yn y gymdeithas.
Mae Nyrsys Anabledd Dysgu yn gofalu am bobl o bob oed ag anabledd dysgu ac yn gweithio mewn partneriaeth ag unigolion, cefnogwyr, teulu a gofalwyr i ddarparu gofal iechyd arbenigol.
Mae prif feysydd eich rôl fel Nyrs Anabledd Dysgu yn cynnwys:
Mae Nyrsys Anabledd Dysgu yn hybu ymreolaeth, hawliau, dewisiadau a chynhwysiant cymdeithasol unigolion yn y system gofal iechyd.
Mae nyrsys Anabledd Dysgu yn gweithio yn:
Mae Nyrs Anabledd Dysgu yn:
Gall Nyrsys Anabledd Dysgu weithio yn y rolau canlynol:
Yn y GIG, byddai Nyrs Anabledd Dysgu Gofrestredig lefel mynediad yn dechrau ar Fand 5; gweler ein hadran Tal a Budd-daliadau am ragor o wybodaeth.
Unwaith y byddwch wedi cofrestru ac ennill rhywfaint o brofiad clinigol, mae sawl opsiwn cyflogaeth ar gael gan gynnwys:
I ddod yn nyrs anabledd dysgu, bydd angen gradd arnoch. Ni fydd yn rhaid i chi wneud gradd nyrsio cyffredinol os ydych yn gwybod eich bod am arbenigo mewn anabledd dysgu, gallwch wneud eich gradd mewn nyrsio anabledd dysgu.
Mae holl swyddi gweigion presennol GIG Cymru yn cael eu hysbysebu ar NHS Jobs.
Yng Nghymru, caiff ffioedd dysgu graddau nyrsio eu hariannu’n llawn drwy Fwrsariaeth y GIG. Mae gwybodaeth am gymhwysedd a sut i wneud cais ar gael yn y Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr.
Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael grant cynhaliaeth ar sail prawf modd.
Os ydych rhwng 16 a 25 oed, gallwch wneud cais i ddod yn Gadet Nyrsio RCN.
Er y bydd yn eich helpu i gael lle ar radd nyrsio anabledd dysgu os oes gennych brofiad clinigol perthnasol, nid yw hyn bob amser yn hanfodol.
I'ch helpu i basio'ch cyfweliad ar gyfer eich gradd nyrsio anabledd dysgu, gallai fod o gymorth os gallwch ddangos gofal mewn unrhyw leoliad, gan gynnwys gofal cwsmeriaid. Bydd hefyd yn helpu os gallwch ddangos eich bod yn gweithio fel rhan o dîm mewn unrhyw leoliad, a'r gallu i weithio dan bwysau.
Gallwch ddysgu mwy am nyrsio yn gyffredinol ar ein wefan Ewch i Nyrsio, ac ar yr adeilad nyrsio (heiw.wales) ein platfform ar-lein Tregyrfa.