I fod yn nyrs mewn carchar, bydd angen i chi fod yn nyrs gofrestredig unai mewn nyrsio oedolion, anableddau dysgu neu iechyd meddwl.
Mae angen i nyrsys sy’n gweithio mewn carchardai fod yn wybodus am y system cyfiawnder troseddol a sut mae’n berthnasol i’w rôl. Caiff nyrsys carchardai gael eu hamgylchynu gan staff cymorth gyda swyddogion carchar yn barod i gamu i mewn i sefyllfaoedd pan fo’r angen, ond mae perygl o drais a cham-drin geiriol yn y swydd ac felly bydd sgiliau rheoli gwrthdaro yn bwyisg iawn i’w cael.
Maen angen i nyrsys carchar fod yn:
Mae tasgau y mae nyrs mewn carchar yn eu perfformio yn gallu amrywio yn ddibynnol ar y math o garchar a lefel y gwasanaethau gofal iechyd a ddarperir. Fodd bynnag, byddant yn gyffredinol yn cynnwys:
Mae nyrsys carchar fel arfer yn gweithio o’r adran gofal iechyd mewn carchardai ac yn cael eu cyflogi gan y GIG, neu gan sefydliad sy’n darparu gwasanaethau ar ran y GIG. O bryd i’w gilydd maent yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y Gwasanaeth Carchardai.
Mae nyrsys carchar yn gweitho mewn pob math o garchardai, gan gynnwys: unedau diogelwch uchel, carchardai agored, carchardai merched neu sefydliadau troseddwyr ifanc.