Mae staff gwyddor gofal iechyd yn y maes hwn yn defnyddio’u sgiliau i ddatblygu dulliau o fesur beth sy’n digwydd yn y corff, dod o hyd i ffyrdd newydd o roi diagnosis o afiechydon a’u trin, a sicrhau bod offer yn gweithio’n ddiogel ac yn effeithiol.
Maent yn cefnogi, datblygu a defnyddio technegau ffisegol fel uwchsain, ymbelydredd, pelydriad, delweddu cyseinedd magnetig, electromagnetedd a delweddu optegol er mwyn archwilio neu gofnodi sut mae’r corff yn gweithio, â’r nod o roi diagnosis a monitro a thrin cleifion. Gweler y manylion am yrfaoedd ym maes Peirianneg Glinigol a Ffiseg Feddygol.
Mae’r rhan fwyaf o staff gwyddor gofal iechyd sy’n gweithio ym maes Peirianneg Glinigol a Ffiseg Feddygol yn gweithio mewn ysbytai ac adrannau arbenigol. Mae rhai yn gweithio gyda chleifion yn eu cartrefi.
Gall myfyrwyr astudio ar ddwy lefel, ar y Rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr i israddedigion neu ar y Rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr i raddedigion. Cliciwch ar y ddolen berthnasol am ragor o fanylion.
Gall myfyrwyr astudio ar ddwy lefel:
y Rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr i israddedigion (PTP)
y Rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr i raddedigion
PTP: gall myfyrwyr astudio’r radd dair blynedd ganlynol:
BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd - Meddygaeth Niwclear ym Mhrifysgol Abertawe
Ar ôl cwblhau’r radd yn llwyddiannus, bydd modd i raddedigion wneud cais i ymuno â’r corff rheoleiddio, sef y Sefydliad ar gyfer Ffiseg a Pheirianneg mewn Meddygaeth, a gallant ymarfer wedyn fel technolegydd ffiseg feddygol.
STP: Gweler y manylion isod am gyfleoedd STP.