Neidio i'r prif gynnwy

Technegwyr Fferyllfa

Ai rôl Technegydd Fferyllfa yw'r yrfa gywir i mi?

Mae gweithio fel Technegydd Fferyllfa yng Nghymru yn rôl bwysig wrth gadw'r cyhoedd yn iach. Mae Technegwyr Fferyllfa yn darparu cymorth a chyngor uniongyrchol i bobl ynglŷn â defnyddio meddyginiaethau ac maen nhw'n arwain aelodau eraill o'r tîm sy'n darparu gwasanaethau meddyginiaethau.

Mae hon yn rôl gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig a all ddarparu ystod eang o gyfleoedd swyddi technegol, clinigol ac arbenigol ar ôl cofrestru, mewn amrywiaeth o leoliadau.

Beth Mae Technegwyr Fferyllfa yn ei Wneud?

Mae technegwyr fferyllfa yn aelodau hanfodol o dimau fferyllfa ac amlddisgyblaethol. Maent yn sicrhau y gall pobl gael mynediad at feddyginiaethau'n ddiogel pryd bynnag y bo angen, gyda chyngor personol, lle bynnag maen nhw.

Mae yna ystod o gyfrifoldebau technegol, clinigol, arweinyddiaeth, rheoli neu ymchwil posib a allai fod yn rhan o rolau Technegydd Fferyllfa. Mae'r rhain yn cynnwys: -

  • Goruchwylio Dosbarthu a Chyflenwi Meddyginiaethau: cydlynu timau a gwirio cywirdeb y meddyginiaethau a'r dyfeisiau meddygol a ddosbarthir gan gynorthwywyr a robotiaid a'u cyflenwi'n ddiogel.

  • Cynghori ar Ddefnyddio a Rhoi Meddyginiaethau: Argymell meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol i bobl gyda chyngor personol ar sut i'w defnyddio i gael buddion iechyd. Mae rhai technegwyr fferyllfa yn dilyn protocolau i roi brechiadau neu feddyginiaethau ar ragnodyn i bobl.
  • Rheoli Meddyginiaethau: Rheoli cyflenwad a defnydd meddyginiaethau pan gaiff pobl eu derbyn a'u rhyddhau i wahanol leoliadau gofal, gan gynnwys cydlynu rhagnodiadau rhwng ysbytai, meddygfeydd teulu a fferyllfeydd cymunedol.
  • Gwasanaethau Clinigol a Thechnegol: Ysgrifennu a dilyn protocolau ar gyfer darparu gwasanaethau meddyginiaethau. Gall gwasanaethau amrywio o fentrau hyrwyddo iechyd a chynnal profion iechyd, i gaffael, argymell a chyflenwi meddyginiaethau neu hyd yn oed oruchwylio gweithgynhyrchu meddyginiaethau arbenigol.
Ble Allwch Chi Weithio?

Mae swyddi Technegydd Fferyllfa ar gael mewn amgylcheddau amrywiol, megis:-

  • Fferyllfeydd Cymunedol: Ymgysylltu'n uniongyrchol â'r cyhoedd, darparu gwasanaethau gofal iechyd hygyrch, hyrwyddo ffyrdd iach o fyw a chefnogi gwerthiannau dros y cownter. Darparu gwasanaethau clinigol ar gyfer anhwylderau cyffredin, rhoi'r gorau i ysmygu ac atal cenhedlu hormonaidd brys.
  • Fferyllfeydd Ysbyty: Cydweithio â thimau gofal iechyd amlddisgyblaethol i optimeiddio meddyginiaethau pobl. Gall hyn fod yn casglu gwybodaeth glinigol i lywio penderfyniadau neu'n defnyddio roboteg a systemau electronig o'r adeg y cânt eu derbyn i'r cyfnod trosglwyddo gofal.
  • Lleoliadau Gofal Sylfaenol: Arwain mentrau rheoli meddyginiaethau mewn clinigau meddygfeydd teulu, canolfannau iechyd gartref neu mewn cartrefi gofal a nyrsio.
  • Meysydd Arbenigol Eraill: mae sefydliadau eraill sy'n cyflogi technegwyr fferyllfa yn cynnwys carchardai, y diwydiant fferyllol, y rheoleiddiwr proffesiynol a chyrff arweinyddiaeth broffesiynol, a gwasanaethau arbenigol y GIG fel digidol, iechyd meddwl, addysg a hyfforddiant a rolau prosiect eraill.

Mae pob lleoliad yn cynnig profiadau a chyfleoedd unigryw i ddatblygu set sgiliau eang o fewn y sector fferylliaeth.

Hyfforddiant a Datblygiad

I gofrestru, rhaid i Dechnegwyr Fferyllfa gwblhau safonau'r GPhC ar gyfer addysg, hyfforddiant a phrofiad sydd fel arfer yn cymryd 2 flynedd tra byddant mewn rôl â thâl yn y gwaith. Mae naw safon broffesiynol i'w cynnal trwy ail-ddilysu blynyddol sy'n cadw'r cyhoedd yn ddiogel ac yn amddiffyn enw da'r proffesiwn.

Ar gyfer Cymru, mae AaGIC yn darparu Rhaglen Hyfforddi Technegydd Fferyllfa Cyn-gofrestru (PRPT)  trwy Fframwaith Prentisiaeth Fodern a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae Fframwaith y Prentisiaeth Fodern yn cynnwys:

  • Tystysgrif Addysg Uwch mewn Ymarfer Technegydd Fferyllfa (Lefel 4)
  • Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2:
    • Cymhwyso rhifau
    • Cyfathrebu
    • Llythrennedd digidol

Cyflwynir y rhaglen hyfforddi 'seiliedig ar waith' fel dysgu cymysg gyda digwyddiadau astudio rhithwir ac wyneb yn wyneb ac asesiadau rheoledig.

 

Pam Dewis Gyrfa fel Technegydd Fferyllfa?

Mae gyrfa fel technegydd fferyllfa yn werth chweil ac yn ddeinamig, gan gynnig:

  • Rhyngweithio Uniongyrchol â Chleifion: Chwarae rhan ymarferol mewn gofal cleifion, gan ddarparu gwasanaethau a chymorth hanfodol sicrhau defnydd diogel ac effeithiol o feddyginiaethau
  • Amgylcheddau Gwaith Amrywiol: Cyfleoedd i weithio mewn sawl sector; fferyllfa gymunedol, ysbyty, ymarfer cyffredinol gyda chyfleoedd i arbenigo mewn maes o ddiddordeb.
  • Datblygiad Gyrfa: Llwybrau clir ar gyfer dyrchafiad o fewn y proffesiwn, wedi'u cefnogi gan raglenni hyfforddi a datblygu strwythuredig.
  • Cyfraniad at Iechyd Cymunedol: Bod yn rhan hanfodol o'r system gofal iechyd, gan gael effaith gadarnhaol ar ganlyniadau iechyd y cyhoedd.

Mae cychwyn ar y llwybr gyrfa hwn nid yn unig yn cynnig twf personol a phroffesiynol ond hefyd y boddhad o wybod eich bod chi'n gwneud gwahaniaeth ystyrlon yn iechyd eraill.

Dechrau Arni

Os ydych chi'n frwdfrydig am ddilyn gyrfa fel Technegydd Fferyllfa yng Nghymru ac rydych chi eisoes yn bodloni'r gofynion mynediad isod, gallwch chwilio am rolau Technegydd Fferyllfa Cyn-gofrestru sydd ar gael ar Swyddi'r GIG a thrwy fferyllfeydd cymunedol.

Os nad oes gennych y gofynion mynediad, ond eich bod eisoes yn gweithio mewn rôl gontractwr GIG Cymru neu GIG Cymru, gallwch ymgymryd ag unrhyw gymwysterau sydd ar goll drwy raglen Mynediad AaGIC.

Gofynion mynediad Technegydd Fferyllfa Cyn-gofrestru

O leiaf 4 TGAU gradd A* i C (graddau newydd 9 i 4) neu gyfwerth y mae'n rhaid iddynt gynnwys

  • TGAU Saesneg (Gradd C/Lefel 4 neu uwch)
  • TGAU Mathemateg (Gradd C/Lefel 4 neu uwch)
  • TGAU Gwyddoniaeth (Gradd C/Lefel 4 neu uwch)

Am ragor o wybodaeth am raglen AaGIC a gofynion mynediad, ewch i dudalen we Technegydd Fferyllfa Cyn-gofrestru AaGIC. Gallwch gysylltu â fferyllfeydd cymunedol yn uniongyrchol ynglŷn â swyddi a hysbysebir swyddi’r GIG ar wefan Swyddi’r GIG lle gallwch sefydlu rhybuddion swyddi.

Cychwynnwch ar daith yrfa foddhaol heddiw a dod yn rhan hanfodol o'r gymuned gofal iechyd yng Nghymru.

Dolenni defnyddiol: