Proffesiwn sy’n seiliedig ar wyddoniaeth yw fferylliaeth, a bydd rhaid bod gennych chi ddiddordeb mewn cemeg, ffisioleg a darparu cyngor gofal iechyd.
Fel fferyllydd, bydd rhaid ichi fod:
Mae fferyllwyr yn arbenigwyr mewn meddyginiaethau a sut i’w defnyddio. Mae eu gwybodaeth am sut y mae meddyginiaethau yn gweithio yn y corff dynol yn hanfodol wrth helpu pobl sydd â phob math o afiechyd i aros yn iach am gyfnod hwy.
Mae fferyllwyr yn helpu pobl i ddefnyddio’u meddyginiaethau yn ddiogel. Mae’r fferyllydd yn cynghori gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, fel meddygon a nyrsys, ynghylch beth yw’r meddyginiaethau mwyaf priodol i unigolion a sut i’w presgripsiynu a’u rhoi er mwyn cael y canlyniad sydd eisiau.
Yn aml, mae fferyllwyr wedi eu hyfforddi i roi meddyginiaethau a brechiadau yn annibynnol ar feddyg. Maent hefyd yn darparu nifer o wasanaethau fel nad oes rhaid i bobl drefnu apwyntiad i weld eu meddyg teulu. Mae fferyllwyr yn goruchwylio aelodau eraill o’r tîm fferyllol sy’n gallu rhoi presgripsiynau, ynghyd â rhoi cyngor am feddyginiaethau y mae modd eu prynu dros y cownter ac am fyw’n iach.
Mae fferyllwyr yn gweithio gydag ystod eang o bobl er mwyn rheoli eu cyflyrau a chadw’n iach:
Mae hyfforddi a gweithio fel fferyllydd yn cynnig y cyfle i weithio mewn sawl lleoliad, gan gynnwys:
Fel arfer mae fferyllwyr yn gweithio am wythnos safonol, sef 37.5 awr, yn y GIG. O bryd i’w gilydd bydd disgwyl iddynt weithio yn gynnar yn y bore, yn y nos, ar y penwythnosau ac ar wyliau’r banc yn ôl rota. Mae rhai fferyllwyr yn darparu gwasanaethau ar alw i’w hysbyty dros nos. Mewn sefydliadau eraill, gall yr oriau amrywio. Mae llawer o fferyllwyr yn dewis gweithio’n rhan amser.
Yn GIG Cymru, cyflog cychwynnol fferyllydd cyn cofrestru yw Band 5. Bydd cyflog fferyllydd sydd newydd gofrestru yn Band 6 yn y GIG; ewch I’n hadran am Gyflog a Buddion am ragor o wybodgeth.
Gall cyflogau yn y sector breifat amrywio, ond fel arfer maent yn debyg i’r rhai yn y GIG.
Mae fferylliaeth yn cynnig llawer o opsiynau cyflogaeth gwahanol a hyblyg. Ar ôl ichi gymhwyso ac ennill y profiad clinigol ac ariannol priodol, gallech chi ddod yn:
Oes angen gradd arna i? | Oes. Os ydych chi am fod yn fferyllydd bydd rhaid ichi gwblhau cwrs MPharm sydd wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol a blwyddyn hyfforddi cyn cofrestru. Rydych chi’n llwyddo yn eich blwyddyn hyfforddiant cyn cofrestru os caiff eich perfformiad ei gymeradwyo gan eich tiwtor yn y gweithle ac mae modd ichi wneud yr asesiad cofrestru terfynol. Ar ôl gwneud hynny, gallwch chi ymuno â’r gofrestr a dechrau ymarfer. |
Ymhle galla i hyfforddi yng Nghymru? |
Ewch i dudalen Addysg Cyn Cofrestru am ragor o wybodaeth. |
Oes cyllid ar gael? | Oes, am ragor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael a chymhwysedd ar ei gyfer, ewch i Wasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr. |
Oes angen profiad arna i er mwyn ymgeisio ar gyfer y cwrs? | Bydd meddu ar unrhyw brofiad mewn rôl ofal, yn broffesiynol ac yn bersonol, yn fanteisiol. Bydd profiad o weithio gyda’r cyhoedd ynghyd â phrofiad o weithio mewn tîm ac o arwain hefyd yn fanteisiol. |
Sut mae ennill profiad? |
I ddysgu am brofiad gwaith a chyfleoedd I wirfoddoli yn GIG Cymru, ewch I’n hadran Gwaith.
Mae gwybodaeth ddefnyddiol am ddod o hyd i brofiad gwaith ar gael ar wefan Pharmacist Support hefyd. |
Sut y galla i ymgeisio am swydd? |
Hysbysebir pob swydd yn GIG Cymru ar wefan NHS Jobs. Ewch i’r adran Gwaith i gael rhagor o wybodaeth. Mae gan gyhoeddiadau ym maes fferylliaeth fel y Chemist and Druggist adran swyddi hefyd. Yn ogystal â hyn mae’r cadwyni fferyllfa mawr yn hysbysebu swyddi ar eu gwefannau eu hunain. |