Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.
Crynodeb |
Cynnwys argymhellion i amlhau rolau penodol, gan ystyried anghenion iechyd y boblogaeth a mynediad teg fel rhan o gyflwyniadau Cynlluniau Addysg a Hyfforddiant i’r dyfodol fel yr amlinellir yn y Cynllun Gweithlu Strategol. (Yn gysylltiedig â modelu galw am y gweithlu cam gweithredu 8B). |
|
Mae'r prosiect hwn yn helpu i sicrhau bod gan ofal sylfaenol yng Nghymru'r staff cywir i ddiwallu anghenion iechyd newidiol pobl. Mae'n defnyddio offer cynllunio i awgrymu mwy o staff mewn rolau allweddol, yn seiliedig ar yr hyn sydd ei angen ar gymunedau. Wrth i fwy o bobl fyw'n hirach, bydd angen mwy o fathau o weithwyr gofal iechyd arnom. Mae'r prosiect hwn yn helpu i gynllunio ymlaen llaw fel bod gwasanaethau'n parhau i fod yn gryf ac yn deg i bawb. |
Manteision |
Mae'r prosiect yn helpu i adeiladu tîm a all ddarparu gofal gwell a gweithio'n dda gyda'i gilydd. Mae'n sicrhau bod staff yn barod ac yn gallu diwallu anghenion iechyd lleol. Mae hefyd yn helpu gwasanaethau i redeg yn iawn a defnyddio eu hadnoddau'n ddoeth. Yn y pen draw mae hyn yn golygu gwell gofal ac iechyd gwell i bobl ledled Cymru. |
Cynnydd hyn yn hyn |
Mae angen data da am y gweithlu arnom i wneud i'r gwaith hwn ddigwydd. Mae'r data ar gyfer meddygon teulu a gwasanaethau meddygol cyffredinol yn llawer gwell nawr, ac rydym wedi dechrau ei ddefnyddio i ddangos pam mae angen mwy o leoedd hyfforddi meddygon teulu. Mae hwn yn gam pwysig ymlaen. |
Camau nesaf |
Nesaf, byddwn yn casglu data ar gyfer gwasanaethau Optometreg, Fferylliaeth a Deintyddol. Pan fydd gennym hyn, gallwn ddechrau modelu'r manteision i'r gweithlu gofal sylfaenol cyfan. Bydd hyn yn ein helpu i gynllunio a chyflwyno’r achos dros anghenion hyfforddi yn y dyfodol. |