Mewn ymateb i un o nodau allweddol Cynllun Cyflawni Genomeg Cymru, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) mewn partneriaeth â Phartneriaeth Genomeg Cymru (GPW) wedi datblygu cynllun gweithlu strategol.
Bydd genomeg yn chwarae rhan arwyddocaol wrth ddarparu gofal iechyd yn y dyfodol gan ein helpu i ddeall mwy am salwch a chlefydau, ac i allu datblygu ymagweddau wedi'u targedu at driniaeth a rheoli cleifion.
Un sbardun allweddol ar gyfer datblygu’r cynllun yw sicrhau bod gennym weithlu a seilwaith arbenigol cadarn sy’n gallu ymateb i’r gofynion a nodir yn y rhaglenni cyflawni cenedlaethol (DU) a Chymru yn ogystal â gweithlu ehangach sydd â ‘llythrennedd genomig’ digonol i sicrhau y gellir prif ffrydio genomeg yn effeithiol i ddarparu gwasanaethau.