Neidio i'r prif gynnwy

Strategaeth gweithlu 10 mlynedd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol

Mae 'Cymru Iachach: Strategaeth ein Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol' yn nodi’r uchelgais i gael gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol brwdfrydig, ymroddedig sy’n cael ei werthfawrogi. Ei nod yw sicrhau’r gallu, y cymhwysedd a’r hyder i ddiwallu anghenion pobl Cymru.

Lansiwyd y strategaeth 10 mlynedd ym mis Hydref 2020 gennym ni (AaGIC) a Gofal Cymdeithasol Cymru ac mae wedi cael mewnbwn sylweddol gan ein partneriaid.

Gyda 32 o gamau gweithredu ar draws saith thema, mae'r meysydd canlynol wrth wraidd y cynllun hwn:

  • lles
  • cynhwysiant
  • Y Gymraeg.

Camau'r strategaeth

Er mwyn sicrhau bod y strategaeth hon yn parhau i fod yn gyfredol, yn gredadwy ac yn ystyried y byd sy'n newid yn gyflym o'n cwmpas, mae wedi'i rhannu'n dri cham:

  • cam I: blynyddoedd 1-3
  • cam II: blynyddoedd 4-6
  • cam III: blynyddoedd 7-10.

Mae gwaith wedi hen ddechrau i ddatblygu cynllun gweithredu cam II.

 

Adnoddau