Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.
Mae’r Rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr (STP) yn gynllun tair blynedd ar gyfer graddedigion, sy’n cyfuno hyfforddiant yn y gweithle â dysgu academaidd. Ar ôl cwblhau’r rhaglen, bydd cyfranogwyr yn gymwys ar gyfer rolau gwyddonydd uwch o fewn y GIG ac yn gallu cofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) fel Gwyddonydd Clinigol.
Yng Nghymru, mae’r rhaglen yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac fe’i rheolir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW), mewn partneriaeth â sefydliadau GIG Cymru a’r Ysgol Genedlaethol Gwyddorau Gofal Iechyd (NSHCS).