Neidio i'r prif gynnwy

Cymrodoriaeth Trawsnewid y Gwasanaeth Gwyddor Gofal Iechyd – Cynnydd

Grymuso Gwelliant mewn Gwyddor Gofal Iechyd ar draws Cymru

Wedi’i hariannu gan Rhaglen Gwyddor Gofal Iechyd, mae Cymrodoriaeth Trawsnewid Gwasanaeth Gwyddor Gofal Iechyd yn cynnig hyd at £3,500 i gefnogi gweithwyr proffesiynl o unrhyw ddisgyblaeth o fewn Gwyddor Gofal Iechyd yng Nghymru.

Mae’r cyfle unigryw hwn yn galluogi cymrodyr i ymweld ag adrannau neu ganolfannau arbennig y tu allan i Gymru i ennill sgiliau, mewnwelediadau ac ymarferion enghreifftiol newydd – gan ddod a syniadau trawsnewidiol yn ôl i wella gwasanaethau’n lleol.

Beth sy’n newydd yn 2025?

Mae’r gymrodoriaeth wedi esblygu i gefnogi trawsnewid ac arloesi gwasanaethau’n well ar draws GIG Cymru.  Rydym yn gyffrous i agor ceisiadau ar gyfer y garfan nesaf o gymrodyr a fydd yn helpu i lunio dyfodol gwyddor gofal iechyd.

  • Ceisiadau ar agor: 15 Medi 2025
  • Dyddiad Cau: 27 Hydref 2025

Pwy all ymgeisio?

Mae unrhyw weithiwr GIG Cymru sy’n gweithio o fewn proffesiwn Gwyddor Gofal Iechyd yn gymwys.

Rydym yn annog ceisiadau yn arbennig gan unigolion sydd wedi:

  • Arwain neu gyfrannu at brosiectau ar raddfa fawr neu genedlaethol.
  • Bod yn rhan o fentrau Perfformiad a Gwella GIG Cymru neu’r rhai a gefnogir gan Gomisiwn Bevan

Sut i Ymgeisio

 

Angen Cymorth neu Oes gennych Gwestiynau?

Anfonwch e-bost i ni yn  HEIW.HCS@wales.nhs.uk – rydym yma I'ch cefnogi trwy’r broses ymgeisio.