Neidio i'r prif gynnwy

Datblygiad ar gyfer gweithwyr gwyddor gofal iechyd

Mae gweithwyr proffesiynol gwyddor gofal iechyd yn gyfrifol am ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) a chofrestru proffesiynol. Mae cyflogwyr yn cefnogi hyn trwy sicrhau bod hyfforddiant ar gyfer y rôl a dilyniant gyrfa yn hygyrch ac yn deg.

Rydym yn darparu cyllid ar gyfer pob llwybr hyfforddi a phob maes dilyniant. Caiff y rhain eu blaenoriaethu gan reolwyr i gadarnhau eu bod yn hanfodol ar gyfer y gwasanaeth, neu ddilyniant gyrfa'r unigolyn.
 

Fframwaith Gyrfa Gwyddor Gofal Iechyd

Mae Fframwaith Gyrfa Gwyddor Gofal Iechyd GIG Cymru yn ganllaw defnyddiol sy'n egluro gwahanol swyddi a llwybrau gyrfa mewn gwyddor gofal iechyd. Mae'n dod a gwybodaeth am addysg, hyfforddiant, a sut y gallwch symud ymlaen yn y gyrfaoedd hyn at ei gilydd. Mae'r fframwaith hwn yn ei gwneud hi'n haws i bawb ddeall y rôl mae gweithwyr proffesiynol gwyddor gofal iechyd yn ei chwarae mewn gofal cleifion a sut mae eu sgiliau'n helpu'r GIG. Mae hefyd yn dangos sut mae gweithwyr proffesiynol gwyddor gofal iechyd yn gweithio gydag eraill ac yn arwain timau i ddarparu gofal arbenigol ar draws GIG Cymru.


Mae Fframwaith Gyrfa Gwyddor Gofal Iechyd GIG Cymru wedi'i gynllunio ar gyfer:

  • Gweithwyr proffesiynol gwyddor gofal iechyd: Yn ateb cwestiynau am addysg, cyllid, a llwybrau gyrfa yn GIG Cymru.
  • Deall y proffesiwn: Yn cynnig disgrifiadau rôl a llwybrau dilyniant gyrfa ar draws 30+ o broffesiynau a 50+ o feysydd gwasanaeth, o lefel graddedig i lefel ymgynghorydd.
  • Cefnogi trawsnewid y gweithlu: Yn helpu cynllunwyr i ddatblygu'r gweithlu gwyddor gofal iechyd yn seiliedig ar anghenion gwasanaeth GIG Cymru.

Oes gennych chi gwestiwn am y fframwaith? Eisiau archwilio cyfleoedd i gydweithio?

Rydym yn croesawu eich barn a'ch adborth am y fframwaith trwy ein harolwg, llenwch ef heddiw.