Mae Wythnos Llythrennedd Genomeg yn gyfle i weithlu GIG Cymru gynyddu eu dealltwriaeth o genomeg a'i gallu i wella gofal cleifion ar draws pob maes o ymarfer clinigol.
Rhwng dydd Llun 17 a dydd Gwener 21 Tachwedd, byddwn yn cynnal cyfres o weminarau amser cinio mewn partneriaeth â Phartneriaeth Genomeg Cymru.
Bydd pob gweminar yn archwilio sut y gall genomeg gefnogi meysydd blaenoriaeth clinigol cenedlaethol yn GIG Cymru, gan gynnwys: iechyd menywod, diabetes, gwasanaethau strôc ac iechyd meddwl.
Mae rhagor o fanylion, gan gynnwys dolenni i gofrestru ar gyfer y gweminarau, i'w gweld isod: