Neidio i'r prif gynnwy

Y cyntaf i Gymru ym maes gofal diwedd oes a gofal lliniarol

Cyhoeddedg: 13/10/2025

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi lansio Fframwaith Cymhwysedd Cymru Gyfan cyntaf erioed ar gyfer Gofal Lliniarol a Diwedd Oes i Oedolion (PEoLC).

Mae'r fframwaith wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth â Rhaglen Genedlaethol GIG Cymru ar gyfer Gofal Lliniarol a Diwedd Oes a grŵp llywio aml-broffesiynol. Yn bwysicaf oll, mae wedi cael ei lunio gan leisiau pobl ledled Cymru. 

Bob blwyddyn, mae angen gofal lliniarol neu ofal diwedd oes ar dros 35,000 o bobl. Hyd yn hyn, nid oes un dull cenedlaethol wedi bod i arwain sgiliau a gwybodaeth y gweithwyr proffesiynol dan sylw.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:

“Mae’r fframwaith hwn yn gam hanfodol tuag at gryfhau gofal lliniarol a gofal diwedd oes ledled Cymru. Drwy ddiffinio'n glir beth a ddisgwylir gan staff, mae'n cefnogi dull cyson waeth beth fo'r lleoliad gofal neu'r darparwr. Bydd yn helpu i sicrhau bod gofal tosturiol o ansawdd uchel yn cael ei alluogi trwy weithlu hyderus a medrus.”

Dywedodd Idris Baker, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Lliniarol a Diwedd Oes yng Nghymru:

“Am y tro cyntaf, mae Cymru wedi datblygu Fframwaith Cymhwysedd pwrpasol i gefnogi staff clinigol i ddarparu gofal i oedolion sydd angen Gofal Lliniarol a Gofal Diwedd Oes (PEoLC). Mae hyn yn gam sylweddol ymlaen i wasanaethau i oedolion yng Nghymru. Dim ond y dechrau yw lansio'r fframwaith. Bydd AaGIC, ynghyd â'r Rhaglen Glinigol Genedlaethol ar gyfer Gofal Lliniarol a Diwedd Oes, yn parhau i weithio mewn partneriaeth â byrddau iechyd, ymddiriedolaethau, hosbisau a darparwyr eraill, yn ogystal â'r rhai sy'n ymwneud â chynllunio'r gweithlu, addysg, hyfforddiant, polisi a darparu gwasanaethau i ymgorffori ac esblygu'r fframwaith ar draws y system.

Mae'r fframwaith yn cefnogi staff ar bob lefel, gan gynnwys arbenigwyr, drwy gynnig canllawiau clir ar ofal lliniarol a gofal diwedd oes (PEoLC) i gyflogwyr, addysgwyr a darparwyr gwasanaethau. Mae'n amlinellu'r wybodaeth, y sgiliau a'r agweddau hanfodol sydd eu hangen ar draws pob lleoliad gofal.

Dywedodd Danielle Garrett, Uwch Reolwr Prosiect yn AaGIC:

“Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at y fframwaith hwn. Mae hwn yn gam mawr ymlaen ar gyfer datblygu'r gweithlu mewn gofal lliniarol a gofal diwedd oes ledled Cymru. Bydd yn grymuso staff ar bob lefel gyda'r sgiliau a'r strwythur sydd eu hangen i ddarparu gofal tosturiol o ansawdd uchel. Yn bwysicaf oll, mae'n sicrhau bod dymuniadau cleifion yn parhau i fod wrth wraidd y gofal, gan helpu unigolion i dderbyn cefnogaeth sy'n barchus ac yn cyd-fynd â'u gwerthoedd a'u dewisiadau.”

Ewch i wefan AaGIC am ragor o wybodaeth.