Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth

Cyhoeddwyd 09/02/24


Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn arwain ar reoli'r Rhaglen Gwyddor Gofal Iechyd yng Nghymru.

Er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd a'r amrywiaeth mewn gyrfaoedd gwyddoniaeth gofal iechyd, rydym yn falch o gefnogi Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth.

Beth yw Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth?
Sefydlwyd Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth gan y Cenhedloedd Unedig i hyrwyddo cydraddoldeb ac ymwybyddiaeth o yrfaoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).

Pryd mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth yn cael ei ddathlu?
Fe'i dathlir yn flynyddol ar Chwefror 11 i gyd-fynd â phen-blwydd Marie Curie — ffisegydd a chemegydd arloesol sy'n enwog am ei gwaith ym maes ymbelydredd a'i chyfraniad at drin canser.

Pam mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth yn bwysig?
Diben Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth yw hyrwyddo gyrfaoedd STEM a mynd i'r afael â'r camsyniadau am gynrychiolaeth rhywedd yn y meysydd hyn. Yn GIG Cymru, mae 60% o weithwyr proffesiynol gwyddor gofal iechyd yn fenywod ac mae'n bwysig ein bod yn adlewyrchu amrywiaeth yn briodol ar draws ein holl waith a'n gweithgareddau.

Sbotoleuadau gwyddoniaeth gofal iechyd AaGIC
Mae Dr. Sarah Bant yn Wyddonydd Clinigol mewn Awdioleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac mae hefyd yn gweithio fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwyddor Gofal Iechyd yn AaGIC. Mae Sarah yn angerddol am broffesiynau gwyddor gofal iechyd ac yn eirioli Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth,

“Rwy'n falch iawn ein bod yn arddangos proffesiynau gwyddor gofal iechyd gwych y GIG fel rhan o'r diwrnod pwysig hwn i godi ymwybyddiaeth — mae gennym gymaint o amrywiaeth o gyfleoedd cyffrous a chymaint o unigolion talentog sy'n gweithio ledled Cymru!”

Yn ystod wythnos 11 — 15 Mawrth, byddwn yn dathlu Wythnos Gwyddoniaeth Gofal Iechyd ar draws ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Dilynwch ni am ddiweddariadau pellach:
- Facebook
- Twitter
- LinkedIn

Os oes gennych ddiddordeb i ddysgu mwy am yrfaoedd mewn gwyddor gofal iechyd, ewch i Tregyrfa, ein platfform rhyngweithiol ar gyfer gyrfaoedd gofal iechyd.

Oes gennych chi gwestiwn? Cysylltwch â ni