Neidio i'r prif gynnwy

AaGIC yn lansio Cynllun Datblygu Gweithlu Proffesiynau Perthynol i Iechyd (AHP)

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn hapus iawn i lansio Cynllun Datblygu Gweithlu Proffesiynau Perthynol i Iechyd (AHP). Mae'r cynllun strategol hwn wedi'i gynllunio i fynd i'r afael ag anghenion iechyd esblygol poblogaeth Cymru drwy greu gweithlu AHP bywiog.

Mae’r  cynllun gweithlu yn manylu ar 54 o gamau gweithredu, y mae rhai ohonynt eisoes wedi gweld cynnydd, gydag amserlenni clir a'r hyn y gellir ei gyflawni. Mae'r camau gweithredu hyn yn sicrhau bod y gweithlu AHP yn gallu cael mynediad at hyfforddiant, adnoddau a llwybrau cadarn, amgylcheddau gweithio hyblyg, a hunaniaeth unigryw, gan gynhyrchu gweithlu ymroddedig a brwdfrydig.

 Dywedodd Nicky Thomas, Cyfarwyddwr Cyswllt Trawsnewid Gweithlu AHP:

“ Bydd Cynllun Datblygu’r Gweithlu AHP yn cefnogi gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd i fynd i’r afael â’r heriau iechyd sylweddol sy’n wynebu Cymru dros y degawd nesaf. Gan gydnabod rôl hanfodol Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd ar draws amrywiol sectorau, mae’r cynllun yn amlinellu strategaethau i arfogi’r gweithlu i gwrdd â’r heriau hyn yn effeithiol.”

Bydd gweithredu'r cynllun yn llwyddiannus yn arwain at ofal o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a ddarperir gan dimau aml-broffesiynol rheoledig a hefyd at well iechyd y boblogaeth trwy fentrau iechyd cyhoeddus rhagweithiol.

Lisa Llewelyn — Cyfarwyddwr Nyrsio, Gweithwyr Iechyd Proffesiynol ac Ansawdd

 “Mae’r Cynllun Datblygu Gweithlu AHP hwn yn gam strategol tuag at rymuso gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ledled Cymru, gan sicrhau bod ganddynt y sgiliau, y cymorth a’r cyfleoedd i ffynnu a darparu’r gofal gorau posibl i’n cymunedau. Mae’r cynllun datblygu gweithlu hwn yn sicrhau eu bod wedi’u harfogi, eu gwerthfawrogi, ac yn barod i ddiwallu anghenion esblygol pobl Cymru.”

Drwy roi’r cynllun hwn ar waith, gall y gweithlu AHP ddiwallu anghenion iechyd newidiol poblogaeth y dyfodol drwy drawsnewid, gan sicrhau canlyniadau o ansawdd uchel i gleifion a galluogi unigolion i fyw bywydau iachach am hirach.

 

Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun hwn ar gael ar ein gwefan.

Oes gennych chi gwestiwn? Cysylltwch â ni