Mae'r Fframwaith Rheoli Ansawdd (QMF) yn ein tywys wrth fonitro hyfforddiant, adborth a phryderon.
Mae'r QMF yn disgrifio:
Yn y bôn, mae'r fframwaith yn dangos ein hatebolrwydd i'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) fel y rheolydd.
Mae sawl ffordd o roi adborth ar eich hyfforddiant gan gynnwys yr arolwg GMC blynyddol: adborth diwedd lleoliad, adborth trwy gynrychiolwyr dan hyfforddiant i'r arbenigedd, neu'n uniongyrchol i'ch goruchwyliwr addysgol, cyfarwyddwr y rhaglen hyfforddi neu'n uniongyrchol i'r Uned Ansawdd.
Mae AaGIC yn defnyddio'ch adborth i driongli tystiolaeth ar draws arbenigeddau a rhaglenni hyfforddi i sicrhau bod rhaglenni'n cydymffurfio â safonau hyfforddi cenedlaethol ac i allu ymchwilio i unrhyw feysydd sy'n peri pryder a datrys unrhyw broblemau gyda rhaglenni hyfforddi.
Mae'r fframwaith rheoli ansawdd yn nodi proses i'n galluogi i ymchwilio i bryderon trwy broses fesul cam (y broses wedi'i thargedu ) sy'n caniatáu i Dimau Cyfadran lleol roi adborth inni ar bryderon cychwynnol a gwella tystiolaeth neu, os yw pryderon yn fwy difrifol, neu'n dod yn fwy difrifol, bydden yn ymweld ag adrannau a chyfweld hyfforddwyr a hyfforddeion yn ogystal ag uwch staff i gael adborth pellach a gweithio gydag adrannau ar gynllun gweithredu i ddatrys pryderon gyda monitro parhaus.
Yn ogystal â nodi a rheoli pryderon hyfforddiant, rydym hefyd yn gweithio i sicrhau bod systemau a threfniadau llywodraethu priodol ar waith i gefnogi cyflwyno hyfforddiant o ansawdd uchel. Rydym yn gwneud hyn trwy ymweliadau comisiynu blynyddol â darparwyr addysg lleol i hwyluso trafodaeth strategol ynghylch nifer y swyddi hyfforddi sydd ar waith ac i ystyried yr amgylchedd addysgol.
Proses adrodd rhaglenni hyfforddi blynyddol (ASR), wedi'i hwyluso gan yr Uned Ansawdd, sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob arbenigedd gyflwyno adroddiad hunanasesu blynyddol yn erbyn safonau rheolydd. Yna mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn bwydo yn ôl i arbenigeddau er mwyn gwella trefniadau llywodraethu gyda rhaglenni hyfforddi a rhannu arfer gorau.