Neidio i'r prif gynnwy

Rhyddid gwybodaeth

Daeth Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA) i rym ar 1 Ionawr 2005, ac mae'n adlewyrchu newid polisi cenedlaethol mewn gweinyddiaeth gyhoeddus o ddiwylliant o gyfrinachedd i un sy'n agored ac yn atebol.  Mae'r ddeddfwriaeth yn rhoi hawl i'r cyhoedd yr hawl i gael mynediad gyffredinol i wybodaeth a ddelir gan unrhyw awdurdod cyhoeddus megis Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), yn ddarostyngedig i eithriadau cyfyngedig penodol.

Os hoffech wneud cais am wybodaeth, yna gwnewch hynny naill ai:

Ebost: HEIW.foi@wales.nhs.uk

Ffôn: 03300 585 005

Neu'n ysgrifenedig i:

Swyddfa Rhyddid Gwybodaeth
Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Tŷ Dysgu
Cefn Coed
Nantgarw
CF15 7QQ

Mae gennych hawl i ofyn am fformat y wybodaeth sy'n ofynnol.

 

Mae Addysg ac Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn gorff gweithlu strategol ar gyfer GIG Cymru ac yn gweithredu fel Awdurdod Iechyd Arbennig. Nid yw AaGIC yn darparu gofal cleifion yn uniongyrchol ac ni all ymateb i ymholiadau am wybodaeth yn ymwneud â hyn.

Os hoffech gael gwybodaeth yn gysylltiedig â gwasanaethau gofal cleifion uniongyrchol, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â Byrddau Iechyd / Ymddiriedolaethau unigol a all eich cynorthwyo ymhellach. Edrychwch ar y ddolen ganlynol am fanylion:   Amdanon Ni - GIG Cymru

 
 
Dogfennau Rhyddid Gwybodaeth eraill