Bwrsariaeth GIG Cymru: Newidiadau arfaethedig llywodraeth Cymru i'r arian ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25. Cyhoeddwyd Tachwedd 2023.
Cyhoeddodd Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru y bydd pob Myfyriwr Bwrsariaeth GIG cymwys sy’n hanu o Gymru (cyfeiriad parhaol yng Nghymru ac nid y cyfeiriad tra’n astudio os yw’n wahanol) yn cael mynediad at y benthyciad cynhaliaeth llawn sydd ar gael gan gyllid myfyrwyr Cymru ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25. Bydd hyn yn dileu mynediad i'r benthyciad cyfradd gostyngol cynhaliaeth gyfredol. Bydd y cynnig hwn yn gofyn am newid y ddeddfwriaeth cymorth i fyfyrwyr cyn y gellir ei gweithredu'n llawn.
Mae hyn yn golygu, unwaith y bydd wedi’i gymeradwyo, y bydd pob Myfyriwr Bwrsariaeth GIG cymwys sy’n hanu o Gymru, gan gynnwys Myfyrwyr meddygol a deintyddiaeth yn eu blynyddoedd bwrsariaeth, yn gallu cael mynediad at uchafswm y benthyciad cynhaliaeth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru, pe baent yn dymuno gwneud hynny, waeth beth fo’u hawl i fwrsariaeth neu grant.
Mae’r newid hwn yn berthnasol i fyfyrwyr bwrsariaeth GIG newydd sy’n dechrau ar eu hastudiaethau ym mlwyddyn academaidd 2024/25, a myfyrwyr bwrsariaeth GIG presennol a fydd yn parhau i astudio yn 2024/25.
Mae’r tabl isod yn dangos uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael o flwyddyn academaidd 2024/25 a’r benthyciad Cyfradd Gostyngol o Gynhaliaeth sydd ar gael i holl Fyfyrwyr Bwrsariaeth y GIG.
Tabl: Newidiadau arfaethedig gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Myfyrwyr Bwrsariaeth y GIG (yn amodol ar newidiadau deddfwriaethol a dim ond ar gyfer y rhai sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru)
Trefniadau byw |
Cyfradd gostyngol gyfredol y benthyciad cynhaliaeth £ |
Uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 £1 |
Gwahaniaeth (+) |
Cartref rhieni |
4,475 |
8,950 |
4,475 |
Mewn man arall |
5,360 |
10,720 |
5,360 |
Llundain (ar gyfer yfmyrwyr meddygol a deintyddol yn unig) |
6,815 |
13,365 |
6,550 |
1 Mae’r ffigurau presennol a ddangosir yn dangos uchafswm y benthyciadau cynhaliaeth yn seiliedig ar y cyfraddau cyfredol yn 2023/24, a bydd y rhain yn cael eu diweddaru yn y dyfodol
Diwedd y datganiad: Tachwedd 2023
Diolch am ymweld â Thudalen Fwrsariaeth AaGIC. Rydym yn diweddaru ein gwybodaeth yn rheolaidd ac mae'r dudalen we bwrpasol hon yn cadw'r holl wybodaeth berthnasol am gynllunbwrsariaeth GIG Cymru a gydlynir gan AaGIC mewn cydweithrediad â NWSSP, Prifysgolion a Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau'r GIG.
Mae gan AaGIC gyfeiriad e-bost y gellir ei ddefnyddio ar gyfer ymholiadau penodol a derbyn gwybodaeth am delerau ac amodau'r fwrsariaeth.
Cysylltwch â ni. HEIW.bursary@wales.nhs.uk.
Gallwch hefyd gysylltu ag AaGIC. EDCommissioning@wales.nhs.uk am ymholiadau mwy cyffredinol ynglŷnâ'r fwrsariaeth.
O bryd i'w gilydd, rydym hefyd yn postio dogfennau a gwybodaeth newydd ynghyd â diweddariad newyddion deufisol. Mae'r holl ddogfennau pwysig cyfredol a dolenni perthnasol i'w gweld isod.
Os oes gennych newid mewn amgylchiadau neu os ydych yn credu na allwch gydymffurfio â Thelerau ac Amodau'r Fwrsariaeth, cysylltwch HEIW.bursary@wales.nhs.uk Byddwn yn gallu eich cynghori os bydd angen i chi gwblhau Adolygiad. Gellir llenwi'r ffurflen Adolygu drwy ddefnyddio'r ffurflen adolygu gyswllt hon.
Os ydych yn ystyried gwneud cais am Fwrsariaeth, naill ai'n llawn amser neu'n rhan-amser, gellir dod o hyd i fanylion llawn ar dudalennau gwe Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru sy'n asesu ceisiadau am gynllun bwrsariaeth y GIG. Cofiwch wirio'r Telerau ac Amodau os yw eich cwrs yn gymwys ar gyfer y fwrsariaeth.
Rydym hefyd yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ddarparu rhybuddion pan fydd gwybodaeth newydd neu pan fydd diweddariadau ar gael.