Mae Gwella Ansawdd (QI) yn canolbwyntio ar wella effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a diogelwch gofal deintyddol. Mae'n cynnwys ymdrechion systematig i wella canlyniadau a phrofiadau cleifion, a gwella prosesau, sy’n arwain at safonau gofal uchel cynaliadwy.
Bydd cymryd rhan mewn prosiect neu fenter QI yn galluogi timau deintyddol i nodi meysydd i'w gwella neu gadarnhau bod yr hyn sydd eisoes yn bodoli yn bodloni'r safon ofynnol, gan roi cadarnhad a sicrwydd i dimau deintyddol a chleifion. Gan ddibynnu ar y fenter wella a ddewiswyd, mae prosiectau yn aml yn cynnwys y tîm deintyddol cyfan sy'n golygu bod gan bawb gyfle i elwa o unrhyw brofiad dysgu’n seiliedig ar waith.
Mae gan bob Bwrdd Iechyd Addysgwr Deintyddol QI pwrpasol. Mae pob un ohonynt yn weithiwr proffesiynol deintyddol cofrestredig y CDC. Maent yn cael eu hysbysu am flaenoriaethau lleol a chenedlaethol ynghylch gofynion gwella ansawdd a dylent fod eich cyswllt cyntaf os ydych yn ystyried cymryd rhan mewn menter QI. Mewn sawl achos gall yr Addysgwr Deintyddol ymweld â'ch gweithle i'ch cynorthwyo neu hwyluso un o'r mentrau. Mae cymryd rhan mewn menter QI yn gwobrwyo DPP dilys ac mae'r prosiectau QI megis archwiliadau ac adolygiadau cymheiriaid i gyd yn denu cyllid. Os ydych yn darparu gofal i gleifion o fewn y GIG, yna does dim cost i chi. Mae ymweliadau’r Addysgwr Deintyddol QI ar gael i bractisau cwbl breifat ar ôl talu tâl. Mae'r tâl hwn fel arfer yn cael ei dalu cyn y sesiwn.
Edrychwch ar y mentrau unigol sydd ar gael a phenderfynwch fel tîm beth yw'r blaenoriaethau i chi yn eich practis neu glinig. Gallwch hefyd e-bostio eich Addysgwr Deintyddol QI lleol yn uniongyrchol os ydych chi eisiau rhywfaint o gymorth cychwynnol neu gyngor ar eich dewis o ymyrraeth QI.
|
Sue Stokes — BIPAB/BIPCTM |
|
|
Tracey Taylor — BIPBC |
|
|
Yvette Powe — BIPCF |
|
|
Anne Walker — BIPHD/BIPBC |
|
|
Richard Jones – BIAP |
|
|
Ewart Johnstone - BIPBA |
Swyddog Prosiect QI - HEIW.DentalQI@wales.nhs.uk (am unrhyw ymholiadau QI cyffredinol neu i gofrestru am archwiliad)