Neidio i'r prif gynnwy

Datblygiad Proffesiynol Parhaus i ddeintyddion

Rydym yn darparu cyrsiau a digwyddiadau i'r tîm deintyddol cyfan. Bob blwyddyn rydym yn cynnal dros 200 o ddigwyddiadau, a thrwy hyn rydym yn dyfarnu 13,000 o oriau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) dilysadwy.

Mae hyn yn helpu gweithwyr deintyddol proffesiynol fel chi i ddangos ymrwymiad i gynnal eich gwybodaeth a'ch sgiliau yn ystod eich gyrfa.

Mae cwmpas ymarfer y Cyngor Deintyddol Cyffredinol yn rhoi arweiniad ar ba sgiliau y gall gweithwyr proffesiynol eu dilyn os ydynt wedi'u hyfforddi ac yn gymwys. Rhaid i chi farnu eich cyfyngiadau yn erbyn hyn a cheisio cyngor lle bo angen.

 

Digwyddiadau DPP

Gellir dod o hyd i ddigwyddiadau DPP ar ein system rheoli dysgu, Y Ty Dysgu.

Maent yn agored i bob aelod o staff sy'n gweithio yn y GIG yng Nghymru.

Gall Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol (GDPs) a Gweithwyr Gofal Deintyddol Proffesiynol (DCPs) sy'n gweithio mewn practisau preifat yn unig fynychu ond codir ffi am ein hyfforddiant ymarferol.

 

Rhaglenni DPP