Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.
I unigolion a hoffai ffurfioli eu dysgu a’u datblygiad fel hyfforddwr neu addysgwr, mae pob un o’r tair Ysgol Feddygaeth ledled Cymru yn darparu cyfleoedd ar gyfer astudio ffurfiol sy’n arwain at gymwysterau proffesiynol.
Yn ogystal â gwella sgiliau a gwybodaeth, gall cymhwyster ffurfiol ddangos ymrwymiad a diddordeb unigolyn mewn darparu addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel a gall wella rhagolygon gyrfa.