Rhaglen datblygu cyfadran efelychu safonedig.
Menter a grëwyd ar ôl ymgynghori'n helaeth â'r Gymuned Efelychu yng Nghymru yw'r Rhaglen Datblygu Cyfadran Efelychu. Defnyddion ni ddull cyfunol i ddarparu’r cyfleoedd dysgu i sicrhau hyblygrwydd a hygyrchedd.
Bydd y rhaglen yn cynnwys tri chwrs annibynnol: Hanfodol, Uwch ac Arbenigol. Lansiwyd y Cwrs Datblygu Cyfadran Hanfodol cyntaf ym mis Hydref 2022.
Gwybodaeth Hanfodol am Gwrs Datblygu Cyfadran Efelychu:
| Cynulleidfa darged | Datblygwyd y cwrs Hanfodol ar gyfer unrhyw hwyluswyr neu dechnegwyr sy'n newydd i efelychu neu sydd erioed wedi mynychu cwrs hyfforddi'r hyfforddwyr ar gyfer efelychu. |
|---|---|
| Nod | Darparu sgiliau sylfaen sy'n ddigonol i arwain sesiynau efelychu a chyfrannu at ddylunio efelychu dan oruchwyliaeth. |
| Hyd a modd cyflwyno |
10 awr o ymdrech dysgwyr Dull dysgu cyfunol 5 awr o ddysgu hunangyfeiriedig (modiwlau e-ddysgu) ac yna 5 awr o ddysgu wedi ei hwyluso (wyneb yn wyneb neu rithwir) |
| Amcanion dysgu |
Erbyn diwedd y cwrs bydd cyfranogwyr yn gallu:
|
| Modiwlau |
|
Bydd y 5 awr o ddysgu hunangyfeiriedig fydd ar gael fel modiwlau e-ddysgu, yn cynnwys asesiad ffurfiannol ac mae'n rhaid ei gwblhau cyn mynychu sesiwn "fyw" wedi'i hwyluso.
Cyflwyno'r cwrs: Byddwn yn cyflwyno'r sesiwn wedi’i hwyluso naill ai wyneb yn wyneb mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru, neu'n rhithwir trwy Microsoft Teams.
Mae'r sesiwn wedi'i hwyluso, boed yn cael ei chyflwyno'n rhithwir neu wyneb yn wyneb, wedi'i chynllunio i fodloni'r un amcanion dysgu. Mae'r sesiwn rithwir yr un mor effeithiol â'r sesiwn wyneb yn wyneb. Byddwch yn cael yr un cyfleoedd i drafod, cydweithio, ymarfer hwyluso senarios a dadfriffio mewn grwpiau, i gyd yn 'fyw' a chydag arweiniad gan hwylusydd yn y sesiynau rhithwir ac wyneb yn wyneb. Yr unig wahaniaeth yw bod y sesiwn rithwir yn fwy addas ar gyfer hwyluso senarios efelychu a gyflwynir yn rhithiol, yn aml gan ddefnyddio cleifion/cyfranogwyr safonol tra yn y sesiynau wyneb yn wyneb rydych yn fwy tebygol o ddefnyddio manicinau a phropiau.
Wrth wneud y dewis rhwng mynychu'r sesiwn rhithwir neu wyneb yn wyneb, ystyriwch y cwestiynau/pwyntiau canlynol:
Dyddiadau a dolenni cofrestru ar gyfer y sesiynau wedi'u hwyluso Hanfodol:
| Dyddiad | Lleoliad | Dolen gofrestru |
|---|---|---|
| 12 Ionawr 2026 | Prifysgol Wrecsam | N/A |
| 23 Chwefror 2026 | Rhithwir: Microsoft Teams | N/A |
| 16 Mawrth 2026 | Ysbyty Athrofaol y Faenor, Cwmbran | Llawn |
| 1 Mehefin 2026 | Prifysgol Bangor | |
| 13 Gorffennaf 2026 | Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd | |
| 28 Medi 2026 | Prifysgol Abertawe | |
| 19 Hydref 2026 | Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen‑y‑bont ar Ogwr | |
| 23 Tachwedd 2026 | Rhithwir: Microsoft Teams |
Nodwch y bydd llefydd yn y sesiynau wedi'u hwyluso yn gyfyngedig.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni ar HEIW.SimulationFD@wales.nhs.uk.