Neidio i'r prif gynnwy

Japan

Cyfle unwaith mewn oes – diolchgar iawn i’r holl bobl a wnaeth gweithio mor galed i helpu gyda’r daith hon, yn Japan ac yng Nghymru. 

Roedd y tebygrwydd rhwng ein dwy gymuned yn caniatáu i mi a fy nghydweithwyr yn Japan gymharu atebion ac archwilio beth mae'n ei olygu i fod yn feddyg teulu.

Ysgrifennais adolygiad myfyriol a chefais fy ysbrydoli i feddwl am ofal iechyd yn y DU, yn enwedig gofal sylfaenol, gyda phersbectif newydd.

Cefais amser ac anogaeth i archwilio ardaloedd lleol. O leiaf unwaith yr wythnos roeddwn i'n mynd i weld golygfeydd ac yn rhoi cynnig ar ddanteithfwyd lleol.

Roedd fy ngwesteiwyr yn gyfeillgar ac yn groesawgar. Mynychais gynhadledd flynyddol Cymdeithas Gofal Sylfaenol Japan. Rwy'n gobeithio cadw mewn cysylltiad â rhai cydweithwyr o'r daith ac roedd rhai ohonynt wedi dod i aros gyda mi pan ymwelon nhw â'r DU.

Fe wnaeth y daith fy herio a gwella fy hyder. Roedd teithio o gwmpas Japan ar fy mhen fy hun - gan gynllunio fy llety a'm teithio fy hun - yn antur hwyliog ac fe'm heriwyd i roi cynnig ar bethau newydd tra roeddwn i yno.

Treuliais y 4 wythnos gyntaf yn symud i ardal newydd o dalaith Fukushima bob wythnos, a oedd yn caniatáu i mi weld gofal sylfaenol mewn lleoliadau gwledig a threfol, yn ogystal â mwynhau llawer o deithiau trên hardd drwy'r mynyddoedd.


Treuliais yr ail fis yn Fukuoka ac roeddwn i'n teimlo bod y rhaglen gyffredinol wedi'i chynllunio'n dda; aeth y sefydliadau cynnal allan o'u ffordd i ofalu amdanaf a dangos gwahanol rannau o'u cymunedau i mi, a chefais fy ngwahodd i fforymau a chyfarfodydd cymdeithasol gyda meddygon teulu eraill a hyfforddeion meddyg teulu drwy gydol fy amser yno.