Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen y Diwrnod Astudio

Mae’r Rhaglen yn cynnwys 10-12 diwrnod astudio, fydd fel arfer yn cael eu cynnal ar ddyddiau Mercher, dydd Iau a dydd Gwener. Bwriad y Rhaglen yw helpu mewn sawl maes, yn arbennig y sgiliau clinigol a thriniaeth sydd eu hangen ar gyfer practis cyffredinol llwyddiannus.  

Nid yw strwythur y cwrs yn llym, a gall gael ei addasu i ymdrin ag unrhyw elfen sydd ei hangen arnoch chi, felly mynnwch sgwrs â Chyfarwyddwr y Rhaglen a fydd yn gweld beth sy’n bosibl i fodloni’ch gofynion.   

Mwynhewch yr hyfforddiant, fel y rhan fwyaf o bethau, po fwyaf o ymdrech rydych chi’n ei roi i mewn i’r hyfforddiant, y mwyaf y byddwch chi’n elwa arno! Mae modd datrys problemau’n gyflym, a byddant yn cael eu datrys yn gyflym os ydyn nhw’n cael eu nodi, felly siaradwch â’ch Goruchwylydd Addysgol, Cyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddiant neu Swyddog Gweinyddol WDTFT – maen nhw yno i’ch helpu chi!  

Dyma rai o bynciau craidd y Rhaglen Addysgol WDTFT:

  • Ymsefydlu, gan gynnwys iechyd a diogelwch yn y practis
  • Rheoli heintiau
  • Radiograffeg a radioleg
  • Adferiadau uniongyrchol
  • Amddiffyn plant, gwahaniaethu o ran anabledd a diogelu
  • Iechyd y Geg
  • Cydsyniad
  • Deddfwriaeth AGC
  • Datrys anghydfod
  • Cadw cofnodion clinigol
  • Argyfyngau Meddygol

 

Gellir trafod rhai pynciau pwysig eraill, megis y canlynol:

  • Sgiliau cyfathrebu
  • Ymdrin â chwynion
  • Gweithio mewn tîm
  • Deintyddiaeth bediatreg
  • Periodonteg
  • Gofal deintyddol brys
  • Technegau anesthetig lleol
  • Argraffiadau deintyddol
  • Cynllunio gyrfaoedd
  • Deintyddiaeth lynol
  • Llawdriniaeth yn y geg

 

Y Portffolio Hyfforddiant

Bydd y Portffolio ar ffurf e-bortffolio. Yn hyn o beth, rhennir manylion â chi a’ch Goruchwylydd Addysgol ar ddechrau’r Rhaglen.   

Bydd yn cynnwys manylion am driniaethau a’r gwaith a wneir, a chofnodir manylion megis nifer y cleifion a welwyd, amser ar y rhaglen addysgu, oriau gwaith ac agweddau amrywiol ar weithgareddau’r mis. Y bwriad yw cynnig profiad dysgu myfyriol, a bod o gymorth o ran hunan-reoli. Bydd y Goruchwylydd Addysgol a Chyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddiant yn cael mewnbwn, ond nid yw’n cael ei asesu’n grynodol. Fodd bynnag, mae’n elfen hanfodol ar y Rhaglen ac mae’n rhaid neilltuo digon o amser a sylw i’r e-Bortffolio.   

 

Ardystiad

Rhoddir oriau DPP ar gyfer pob diwrnod astudio a fynychir, drwy System Rheoli Dysgu AaGIC, sef y Tŷ Dysgu (sydd weithiau’n cael ei alw’n YTD).

Ar ddiwedd y penodiad, bydd y Deon Deintyddiaeth Ôl-raddedig yn cyflwyno Tystysgrif Gwblhau i’r Therapydd Sylfaen.