Gan fod Therapyddion Sylfaen yn gweithio i’w Goruchwylwyr Addysgol, mae’n rhaid didynnu treth ac yswiriant gwladol o’r cyflog.
Os ydych wedi bod mewn gwaith yn y flwyddyn dreth hon (ar ôl 6 Ebrill), dylech chi fod wedi derbyn P45 gan eich cyflogwr blaenorol sy’n dangos y dreth rydych chi wedi’i thalu a’r cod treth. Dylid cyflwyno’r ddogfen i’r Goruchwylydd Addysgol.
Os nad oes gennych gôd treth, fe ddefnyddir cod brys ac mae’n bosibl y byddwch yn talu gormod o drethi.
Os ydych chi’n dechrau gwaith ac yn cael eich talu heb gôd treth ac yna’n derbyn cod cywir, bydd y gostyngiad treth yn berthnasol a’r cyflog misol nesaf yn llawer uwch (hynny yw, byddwch chi’n derbyn ad-daliad trethi).
Bydd angen eich rhif Yswiriant Gwladol ar eich Goruchwylydd Addysgol. Os nad oes gennych chi rif Yswiriant Gwladol, cysylltwch â’r Asiantaeth Gyfraniadau.
Fe fyddwch chi’n talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar raddfeydd contractwyr allanol.
Dylech dderbyn slipiau cyflog manwl yn dangos yr holl ddidyniadau misol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am eich cyflog a’ch hawliadau, trafodwch â’ch Goruchwylydd Addysgol neu reolwr y gyflogres yn y practis yn y cam cyntaf. Gall Cyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddiant ymdrin â’r holl ymholiadau sy’n weddill. Byddwn yn cyfeirio at gyngor arbenigol os na allwn ateb cwestiynau neu ddatrys problemau Therapyddion Sylfaen am Drethi neu Yswiriant Gwladol.