Gwnewch yn siŵr bod pob rhan o’r Contract wedi’u cytuno a’u cwblhau. Rhaid i unrhyw addasiadau, boed yn rhai bach neu’n rhai mawr, gael eu llofnodi gan bob parti a’u cyflwyno i’r Deon Deintyddiaeth Ôl-radd i’w cymeradwyo.
Bydd Cytundeb hyfforddiant yn cael ei lofnodi rhwng y Goruchwylydd Addysgol ac AaGIC, yn ogystal â’r Cytundeb hyfforddiant rhwng y Therapydd Sylfaen ac AaGIC. Nes bydd y rhain wedi’u cyflawni, ni fydd unrhyw gyllid yn cael ei drosglwyddo i’r practis hyfforddi.
Bydd eich Therapydd Sylfaen ar gyflog penodol. Bydd hyn yn eu galluogi i ymdrin â chleifion heb unrhyw bwysau ariannol. Mae hyn yn wahanol i drefn ffi fesul eitem, lle byddant hefyd yn manteisio ar incwm pendant ar ddiwedd y mis cyntaf yn y practis. Byddant yn cael eu cyflogi ar gontract ffurfiol.
Fel cyflogwr, chi fydd yn gwneud y trefniadau o ran talu cyflog eich Therapydd Sylfaen. Bydd y cyflog yn un Band 6 ar y Raddfa Gyflog Agenda Newid. Dylid talu’r cyflog bob mis. Dylai’r Therapydd Sylfaen dderbyn slip cyflog â manylion.
Mae’r Goruchwylydd Addysgol yn gyfrifol am gyfraniadau yswiriant gwladol y cyflogwr, ac am ddidynnu yswiriant gwladol a threthi PAYE y Therapydd.
Rhaid i’r Goruchwylydd Addysgol gynnig cymorth addysgol priodol gan gynnwys caniatáu i’r Therapydd Sylfaen fynd i 10-12 o ddyddiau astudio, a chyflawni elfennau perthnasol ar y portffolio hyfforddiant. Ni ddylai’r Goruchwylydd Addysgol fynnu bod y Therapydd Sylfaen yn gweithio yn y practis ar yr adeg hon. Rhaid i’r dyddiau astudio gael eu cynnwys yn rhan o’r wythnos waith.
Rhaid i’r Therapydd Sylfaen ddilyn cyfarwyddiadau rhesymol y Goruchwylydd Addysgol. Mae hyn yn hanfodol i sicrhau perthynas broffesiynol rhwng Goruchwylydd Addysgol a Therapydd Sylfaen.
Bydd gofyn i bob practis wneud yn siŵr bod y therapydd sylfaen deintyddol yn treulio o leiaf 50% o’i amser yn cyflawni triniaeth adferol a gwneud yn siŵr bod dim mwy nag awr yn cael ei dreulio ar glaf preifat mewn dydd.
Os gwneir unrhyw waith preifat, bydd ffioedd y Goruchwylydd Addysgol yn cynyddu. Dylid rhoi eglurhad clir i’r claf ynghylch natur contract eu triniaeth.
Bydd contract llawn amser yn gymwys ar gyfer 20 diwrnod gwaith o Wyliau Blynyddol – bydd gan eich Therapydd Sylfaen hawl i 8 diwrnod gwaith ar y gyfradd pro rata (cyfwerth â phedair wythnos ar gontract llawn amser). Bydd unigolyn ar gontract llawn yn cael 8 diwrnod o Wyliau Banc a dylid dynodi hyn ar raddfa pro rata, neu yn unol â pholisïau eich practis.
Mae hefyd hawl i bedair wythnos o gyfnod mamolaeth/salwch PRO RATA a all gael ei ymestyn gyda chymeradwyaeth y Goruchwylydd Addysgol a Chyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddiant. Fel arall, bydd y gyflogaeth yn dod i ben ar unwaith.
Ni ddylai’r Therapydd Sylfaen gymryd diwrnod o wyliau ar ddiwrnod astudio.
Amser y sesiynau 9 am – 12 pm 1 pm – 4 pm
Gall yr amseroedd hyn amrywio o bryd i’w gilydd
Os yw’ch Therapydd Sylfaen yn sâl, mae gofyn iddynt roi gwybod i chi a’r Swyddog Gweinyddol WDTFT ar unwaith. Salwch yw’r unig reswm dilys dros beidio â bod yn bresennol. Dylid trefnu cyfweliadau neu drefniadau personol y tu hwnt i’r amseroedd uchod.
Sylwer, bydd y Goruchwylydd Addysgol yn cael gwybod am unrhyw achos o beidio â mynd i ddiwrnod astudio.
Nodir amser dechrau pob diwrnod astudio yn yr Amserlen.