Byddech chi wedi derbyn y canllaw hwn yn dilyn croesawu Therapydd Sylfaen i’ch deintyddfa.
Cyn dechrau, dylech chi fod wedi gwneud y canlynol:
- Trafod a chytuno ar oriau gwaith gyda’r Therapydd Sylfaen
- Cytuno ar ddyddiad dechrau yn y practis
- Teimlo’n fodlon eich bod yn gallu:
Helpu’r Therapydd Sylfaen gyda’i eBortffolio
Cydymffurfio â thelerau eraill y Contract
- Llofnodi a dychwelyd copi o’r Contract i AaGIC (gan gadw copi ar gyfer y Therapydd Sylfaen a chi eich hun)
Fe fyddwch chi a’ch Therapydd Sylfaen wedi rhoi gwybod i’r Swyddog Gweinyddol, Adran Deintyddiaeth Ôl-radd, am eich penodiad.
Erbyn diwedd yr wythnos gyntaf yn ymarfer, dylech chi fod wedi:
- Cael mynediad i Bortffolio Datblygu Proffesiynol y Therapydd
- Cwblhau tudalennau’r Goruchwylydd Addysgol a’r manylion personol
- Cael sgwrs gychwynnol gyda’ch Therapydd Sylfaen a chwblhau’r rhestr wirio dechrau ar brofiad clinigol, a chreu cynllun gweithredu
- Derbyn copi o’r amserlen ar gyfer y diwrnodau astudio