Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Hyfforddiant Sylfaen Therapi Deintyddol Cymru - Llawlyfr Goruchwylwyr Addysgol

Manylion Cyswllt

Dr Adam Porter
Cyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddiant WDTFT
Adran Deintyddiaeth Ôl-radd
AaGIC
Llawr Cyntaf
Tŷ Dysgu
Cefn Coed
Nantgarw
CF15 7QQ
Ffôn: 03300 584 219  
Adam.porter@wales.nhs.uk
 

Mrs Kath Liddington
Swyddog Gweinyddol WDTFT Cymru
Adran Deintyddiaeth Ôl-radd
AaGIC
Llawr Cyntaf
Tŷ Dysgu
Cefn Coed
Nantgarw
CF15 7QQ
Ffôn: 03300 584 219  
Katherine.liddington@wales.nhs.uk

Mrs Kirstie Moons
Deon Deintyddiaeth Ôl-raddedig
Adran Deintyddiaeth Ôl-radd
AaGIC
Llawr Cyntaf
Tŷ Dysgu
Cefn Coed
Nantgarw
CF15 7QQ
Ffôn: 03300 584 219  
E-bost: kirstie.moons@wales.nhs.uk

 

Rhaglen Hyfforddiant Sylfaen Therapi Deintyddol Cymru

Nod Rhaglen Hyfforddiant Sylfaen Therapi Deintyddol Cymru yw darparu’r hyfforddiant a’r addysg sydd eu hangen ar Therapyddion Deintyddol i weithio mewn amgylchedd Ymarfer Deintyddol Cyffredinol.

Rhoddir pwyslais ar ddatblygiad proffesiynol parhaus drwy gydol y cwrs. Anogir y Therapydd WDTFT i ddatblygu ac ehangu ar yr ystod o sgiliau clinigol a phersonol a ddatblygwyd wrth astudio neu weithio mewn elfennau eraill ar ddeintyddiaeth.

Yn dilyn cofrestru â’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol, bydd ymarferydd moesegol yn sicrhau ei fod yn gwybod y diweddaraf drwy fynd i gyfarfodydd, sioeau masnach a mynd ar gyrsiau sydd ar gael drwy’r Rhaglen DCP.  

Mae Therapyddion Deintyddol yn aelodau gwerthfawr o’r tîm deintyddol, ac mae’r rôl wedi datblygu’n sylweddol mewn blynyddoedd diweddar. Maen nhw’n darparu ystod eang o wasanaethau ar gyfer cleifion, gan gynnwys cymryd radiograffau, cynllunio triniaeth, cynnal adferiadau uniongyrchol o fewn cwmpas eu hymarfer a thynnu dannedd cyntaf. 

Nodau Hyfforddiant WDTFT
  • Cyflwyno’r Therapydd Sylfaen i Ymarfer Deintyddol Cyffredinol
  • Defnyddio dulliau dysgu myfyriol i nodi meysydd cryf neu rai i’w gwella
  • Sicrhau mynediad i ofal deintyddol cychwynnol o safon, a gofal deintyddol parhaus o safon, a darparu’r gofal hwnnw
  • Ysgogi astudiaethau pellach
  • Ennill profiad a magu dealltwriaeth o’r cysyniad o Wella Ansawdd mewn Ymarfer, gan arwain at well ofal i gleifion

Nod cyffredinol hyfforddiant WDTFT yw paratoi’r Therapydd Sylfaen ar gyfer gallu gweithio mewn amgylchedd Ymarfer Deintyddol Cyffredinol.

Amcanion Hyfforddiant WDTFT

Ar ôl graddio a chwblhau’r ‘Rhaglen Hyfforddiant Sylfaen Therapi Deintyddol Cymru’, bydd Therapydd Sylfaen

yn meddu ar ragor o brofiad ac yn gallu gwneud y canlynol yn well:

  • Ysgrifennu cynlluniau triniaeth strwythuredig ar y cyd â’r tîm ymarfer
  • Asesu cyfyngiadau eu gwybodaeth a sgiliau eu hunain, a bod yn barod i geisio cymorth gan ffynhonnell briodol

 

hefyd, bydd wedi gwneud y canlynol:

  • Caffael gwybodaeth waith trylwyr am reoliadau GDS, gan ei alluogi i ddarparu gwasanaethau deintyddol cyffredinol yn y GIG
  • Caffael y sgiliau sydd eu hangen er mwyn gweithio mewn tîm deintyddol cyffredinol
  • Caffael dealltwriaeth a gwybodaeth am seicoleg cleifion ynghylch triniaeth ddeintyddol

 

bydd hefyd yn meddu ar y canlynol:

  • Deall yr angen i barhau a datblygu capasiti hunan-addysg
  • Ymwybyddiaeth o’r Deddfau, Rheoliadau a’r canllawiau ynghylch ymarfer yn ddiogel ac iechyd a diogelwch yn y gweithio, gan gyfeirio’n benodol at ymbelydredd, trawsheintio a thrin deunyddiau a ddefnyddir mewn ymarfer deintyddol cyffredinol
  • Ymagwedd foddhaol o ran moeseg ymarfer, a dealltwriaeth o’r angen am gyfrinachedd, gan gynnwys y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol a mynediad i gofnodion cleifion.

 

Fis Mawrth 2013, cyflwynodd y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC) bolisi mynediad uniongyrchol ar gyfer pan fydd Therapyddion Deintyddol yn gofalu am gleifion. Er hyn, ar hyn o bryd nid yw Therapyddion a Glanweithyddion Deintyddol wedi’u cynnwys ar Restr Perfformwyr Deintyddol y GIG yn y DU. Yn flaenorol, roedd Therapyddion yn darparu gofal yn dilyn atgyfeiriad gan ddeintydd. Fodd bynnag, mae’r newid i’r rheoliadau wedi golygu bod modd i gleifion gael mynediad i ofal a thriniaeth gan Therapydd Deintyddol, yn dibynnu ar faes gwaith y Therapydd. Fe ddatblygwn ddealltwriaeth o’r cyd-destun hwn drwy’r cwrs.

Dechrau Arni

Byddech chi wedi derbyn y canllaw hwn yn dilyn croesawu Therapydd Sylfaen i’ch deintyddfa.
 

Cyn dechrau, dylech chi fod wedi gwneud y canlynol:

  • Trafod a chytuno ar oriau gwaith gyda’r Therapydd Sylfaen
  • Cytuno ar ddyddiad dechrau yn y practis
  • Teimlo’n fodlon eich bod yn gallu:

Helpu’r Therapydd Sylfaen gyda’i eBortffolio

Cydymffurfio â thelerau eraill y Contract

  • Llofnodi a dychwelyd copi o’r Contract i AaGIC (gan gadw copi ar gyfer y Therapydd Sylfaen a chi eich hun)

 

Fe fyddwch chi a’ch Therapydd Sylfaen wedi rhoi gwybod i’r Swyddog Gweinyddol, Adran Deintyddiaeth Ôl-radd, am eich penodiad.

 

Erbyn diwedd yr wythnos gyntaf yn ymarfer, dylech chi fod wedi:

  • Cael mynediad i Bortffolio Datblygu Proffesiynol y Therapydd
  • Cwblhau tudalennau’r Goruchwylydd Addysgol a’r manylion personol
  • Cael sgwrs gychwynnol gyda’ch Therapydd Sylfaen a chwblhau’r rhestr wirio dechrau ar brofiad clinigol, a chreu cynllun gweithredu
  • Derbyn copi o’r amserlen ar gyfer y diwrnodau astudio
Y Contract Hyfforddiant: Pethau i'w Cofio
Contract

Gwnewch yn siŵr bod pob rhan o’r Contract wedi’u cytuno a’u cwblhau. Rhaid i unrhyw addasiadau, boed yn rhai bach neu’n rhai mawr, gael eu llofnodi gan bob parti a’u cyflwyno i’r Deon Deintyddiaeth Ôl-radd i’w cymeradwyo.

Bydd Cytundeb hyfforddiant yn cael ei lofnodi rhwng y Goruchwylydd Addysgol ac AaGIC, yn ogystal â’r Cytundeb hyfforddiant rhwng y Therapydd Sylfaen ac AaGIC. Nes bydd y rhain wedi’u cyflawni, ni fydd unrhyw gyllid yn cael ei drosglwyddo i’r practis hyfforddi.
 

Cyflog

Bydd eich Therapydd Sylfaen ar gyflog penodol. Bydd hyn yn eu galluogi i ymdrin â chleifion heb unrhyw bwysau ariannol. Mae hyn yn wahanol i drefn ffi fesul eitem, lle byddant hefyd yn manteisio ar incwm pendant ar ddiwedd y mis cyntaf yn y practis. Byddant yn cael eu cyflogi ar gontract ffurfiol.

Fel cyflogwr, chi fydd yn gwneud y trefniadau o ran talu cyflog eich Therapydd Sylfaen. Bydd y cyflog yn un Band 6 ar y Raddfa Gyflog Agenda Newid. Dylid talu’r cyflog bob mis. Dylai’r Therapydd Sylfaen dderbyn slip cyflog â manylion.  

Mae’r Goruchwylydd Addysgol yn gyfrifol am gyfraniadau yswiriant gwladol y cyflogwr, ac am ddidynnu yswiriant gwladol a threthi PAYE y Therapydd.

Rhaid i’r Goruchwylydd Addysgol gynnig cymorth addysgol priodol gan gynnwys caniatáu i’r Therapydd Sylfaen fynd i 10-12 o ddyddiau astudio, a chyflawni elfennau perthnasol ar y portffolio hyfforddiant. Ni ddylai’r Goruchwylydd Addysgol fynnu bod y Therapydd Sylfaen yn gweithio yn y practis ar yr adeg hon. Rhaid i’r dyddiau astudio gael eu cynnwys yn rhan o’r wythnos waith.

Rhaid i’r Therapydd Sylfaen ddilyn cyfarwyddiadau rhesymol y Goruchwylydd Addysgol. Mae hyn yn hanfodol i sicrhau perthynas broffesiynol rhwng Goruchwylydd Addysgol a Therapydd Sylfaen.

Bydd gofyn i bob practis wneud yn siŵr bod y therapydd sylfaen deintyddol yn treulio o leiaf 50% o’i amser yn cyflawni triniaeth adferol a gwneud yn siŵr bod dim mwy nag awr yn cael ei dreulio ar glaf preifat mewn dydd.

Os gwneir unrhyw waith preifat, bydd ffioedd y Goruchwylydd Addysgol yn cynyddu. Dylid rhoi eglurhad clir i’r claf ynghylch natur contract eu triniaeth.

 

Gwyliau

 

Bydd contract llawn amser yn gymwys ar gyfer 20 diwrnod gwaith o Wyliau Blynyddol – bydd gan eich Therapydd Sylfaen hawl i 8 diwrnod gwaith ar y gyfradd pro rata (cyfwerth â phedair wythnos ar gontract llawn amser). Bydd unigolyn ar gontract llawn yn cael 8 diwrnod o Wyliau Banc a dylid dynodi hyn ar raddfa pro rata, neu yn unol â pholisïau eich practis.

Mae hefyd hawl i bedair wythnos o gyfnod mamolaeth/salwch PRO RATA a all gael ei ymestyn gyda chymeradwyaeth y Goruchwylydd Addysgol a Chyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddiant. Fel arall, bydd y gyflogaeth yn dod i ben ar unwaith.  

Ni ddylai’r Therapydd Sylfaen gymryd diwrnod o wyliau ar ddiwrnod astudio.

 

PETHAU PWYSIG I’W COFIO

 

Amser y sesiynau                9 am – 12 pm                       1 pm – 4 pm

Gall yr amseroedd hyn amrywio o bryd i’w gilydd

 

Os yw’ch Therapydd Sylfaen yn sâl, mae gofyn iddynt roi gwybod i chi a’r Swyddog Gweinyddol WDTFT ar unwaith. Salwch yw’r unig reswm dilys dros beidio â bod yn bresennol. Dylid trefnu cyfweliadau neu drefniadau personol y tu hwnt i’r amseroedd uchod.  

Sylwer, bydd y Goruchwylydd Addysgol yn cael gwybod am unrhyw achos o beidio â mynd i ddiwrnod astudio.

Nodir amser dechrau pob diwrnod astudio yn yr Amserlen.

Rhaglen y Diwrnod Astudio

Mae’r Rhaglen yn cynnwys 10-12 diwrnod astudio, fydd fel arfer yn cael eu cynnal ar ddyddiau Mercher, dydd Iau a dydd Gwener. Bwriad y Rhaglen yw helpu mewn sawl maes, yn arbennig y sgiliau clinigol a thriniaeth sydd eu hangen ar gyfer practis cyffredinol llwyddiannus.  

 

Nid yw strwythur y cwrs yn llym, a gall ei addasu i ymdrin ag unrhyw elfen sydd ei hangen ar y Therapydd Sylfaen.

 

Bydd eich Therapydd Sylfaen yn cael ei annog i godi unrhyw broblem ar unwaith er mwyn ei datrys yn gyflym. Gall y Therapydd Sylfaen siarad â’r Goruchwylydd Addysgol, Cyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddiant neu’r Swyddog Gweinyddol i gael cymorth.

Dyma rai o bynciau craidd y Rhaglen Addysgol WDTFT:

  • Ymsefydlu, gan gynnwys iechyd a diogelwch yn y practis
  • Rheoli heintiau
  • Radiograffeg a radioleg
  • Adferiadau uniongyrchol
  • Amddiffyn plant, gwahaniaethu o ran anabledd a diogelu
  • Iechyd y Geg
  • Cydsyniad
  • Deddfwriaeth AGC
  • Datrys anghydfod
  • Cadw cofnodion clinigol
  • Argyfyngau Meddygol

 

Gellir trafod rhai pynciau pwysig eraill, megis y canlynol:

  • Sgiliau cyfathrebu
  • Ymdrin â chwynion
  • Gweithio mewn tîm
  • Deintyddiaeth bediatreg
  • Periodonteg
  • Gofal deintyddol brys
  • Technegau anesthetig lleol
  • Argraffiadau deintyddol
  • Cynllunio gyrfaoedd
  • Deintyddiaeth lynol
  • Llawdriniaeth yn y geg

 

Y Portffolio Hyfforddiant

 

Byddwch yn cyflawni’r Portffolio ar ffurf e-bortffolio. Yn hyn o beth, rhennir y manylion gyda’r Goruchwylydd Addysgol a’r Therapydd Sylfaen ar ddechrau’r Rhaglen.

Bydd yn cynnwys manylion am driniaethau a’r gwaith a wneir, a chofnodir manylion megis nifer y cleifion a welwyd, amser ar y rhaglen addysgu, oriau gwaith ac agweddau amrywiol ar weithgareddau’r mis. Y bwriad yw cynnig profiad dysgu myfyriol i’r Therapydd Sylfaen, a bod o gymorth o ran hunan-reoli. Bydd y Goruchwylydd Addysgol a Chyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddiant yn cael mewnbwn, ond nid yw’n cael ei asesu’n grynodol. Fodd bynnag, mae’n elfen hanfodol ar y Rhaglen ac mae’n rhaid neilltuo digon o amser a sylw i’r e-Bortffolio.   
 

Ardystiad

Bydd y Therapydd Sylfaen yn cael oriau DPP ar gyfer pob diwrnod astudio drwy System Rheoli Dysgu AaGIC, sef y Tŷ Dysgu.

Ar ddiwedd y penodiad, bydd y Deon Deintyddiaeth Ôl-raddedig yn cyflwyno Tystysgrif Gwblhau i’r Therapydd Sylfaen.

 

Mae croeso i Oruchwylwyr Addysgol fynd i unrhyw ddiwrnod astudio os ydyn nhw’n credu y bydd o fudd iddynt.

Y Cyflog

Gan fod Therapyddion Sylfaen yn gweithio i’w Goruchwylwyr Addysgol, mae’n rhaid didynnu treth ac yswiriant gwladol o’r cyflog.

TRETH

Gofynnir i Therapyddion Sylfaen rannu unrhyw ddogfennau P45 sydd ganddynt â chi.

 

Yswiriant Gwladol

Bydd eich Therapydd Sylfaen yn rhannu ei rif Yswiriant Gwladol â chi.

Byddant yn talu cyfraniad Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar gyfraddau contractio.

 

Slipiau Cyflog

Dylech ddarparu slip cyflog manwl yn dangos yr holl ddidyniadau misol. Dylid trafod unrhyw ymholiadau am gyflogau a hawliadau gyda’r Therapydd Sylfaen yn y lle cyntaf. Gall Cyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddiant ymdrin ag unrhyw ymholiadau pellach. Byddwn yn cyfeirio at gyngor arbenigol os na allwn ateb cwestiynau neu ddatrys problemau Therapyddion Sylfaen am Drethi neu Yswiriant Gwladol.

Gofal Iechyd Cynaliadwy yng Nghymru

Fis Ebrill 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd yng Nghymru, a dwy flynedd wedyn cyhoeddwyd ei chynllun ar gyfer GIG “sero net” erbyn 2030. Mewn ymateb i’r addewid hon, cyhoeddwyd Cynllun Cyflawni Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru.

Cynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru (llyw.cymru)

Mae gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ran i’w chwarae o ran cefnogi gweithrediad y cynllun hwn, ond gallwn ni i gyd chwarae rhan yn hyn o beth.

Disgrifia’r Lancet newid hinsawdd fel “y bygythiad iechyd byd-eang mwyaf y mae’r byd yn ei wynebu yn y 21ain ganrif”.

Gall meddwl am newid hinsawdd fod yn frawychus (mae hyn yn ymateb normal i newyddion drwg; gelwir hyn yn eco-drallod). Gall cydnabod sut ry’n ni’n teimlo, a sut ry’n ni’n gweithredu, wneud inni deimlo’n fwy positif.

Dyma rai camau bach y gallwch chi eu rhoi ar waith:

  • Ymuno â’ch Grŵp Gwyrdd lleol (mae un ar gael ymhob Bwrdd Iechyd)
  • Edrych ar yr adnoddau sydd ar gael ar wefan Iechyd Gwyrdd Cymru
  • Ymchwilio i opsiynau teithio llesol er mwyn cymudo i’r gwaith neu rannu car ar gyfer diwrnodau astudio.
  • Dod â mwg/potel ddŵr ailddefnyddiadwy i ddiwrnodau/sesiynau astudio.
  • Lleihau’r defnydd o bapur, oherwydd bydd yr holl gynnwys addysgol, amserlenni ac agendau ar gael ar ffurf digidol neu drydanol.  
  • Mae deintyddiaeth yn wynebu heriau mawr yn helpu i daclo’r broblem, yn enwedig ynghylch dadhalogi, gwaredu gwastraff a’r defnydd o blastigau untro. Mae allyriadau gwasanaethau deintyddol y GIG yn cynrychioli 3% o ôl-troed carbon cyffredinol y GIG.

    Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am Gynaliadwyedd ym maes Deintyddiaeth, cliciwch y ddolen isod i gael mynediad i adnodd arbennig ar wefan y Ganolfan Gofal Iechyd Cynaliadwy.

    Sustainable Dentistry: How-to Guide for Dental Practices | Centre for Sustainable Healthcare

    Mae Gofal Iechyd Cynaliadwy yn darparu gobaith ar gyfer dyfodol a phlaned iachach.

    Dyna pam mae’r Lancet hefyd yn disgrifio newid hinsawdd fel “y cyfle mwyaf i ailddiffinio penderfynyddion cymdeithasol ac amgylcheddol iechyd”.  

Yr Adran Deintyddiaeth Ôl-radd – Lleoliadau Ôl-radd

Prif leoliad y cwrs yw’r Uned Deintyddiaeth Ôl-radd yn Ysbyty’r Tywysog Charles, Merthyr Tudful. Lleolir yr Uned yng nghefn y prif adeilad, ger mynedfa’r uned famolaeth. Mae arwydd y tu allan i’r adeilad (Uned 3), yn dynodi lleoliad yr Uned Ôl-radd. Mae nifer o feysydd parcio mawr ar y safle a’r rheiny am ddim.

Mae yna siop goffi a ffreutur yn yr ysbyty a’r ddau’n cynnig lluniaeth.

Mae gan yr Adran Ddeintyddiaeth Ôl-radd sawl cyfleuster sy’n cael eu defnyddio’n rheolaidd ar gyfer Hyfforddiant Sylfaen Deintyddol a Hyfforddiant Craidd Deintyddol, yn ogystal ag amrywiaeth helaeth o gyrsiau a addysgir a chyrsiau ymarferol ar gyfer yr holl dîm deintyddol. Mae gennym gyfleusterau cyfrifiadurol a hyd at ddeuddeg o fodelau deintyddol gyda darlithfeydd llawn offer a chyfleusterau fideogynadledda. Ceir llyfrgell gynhwysfawr ar y safle ac mae croeso i Therapyddion Sylfaen fenthyg unrhyw lyfrau a’r offer sain/gweledol sydd ar gael. Rydym yn annog pob Goruchwylydd Addysgol a Therapyddion Sylfaen i ddefnyddio’r cyfleusterau hyn drwy’r flwyddyn – gofynnwch i Gyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddiant am argaeledd.

Cynhelir nifer o ddiwrnodau astudio ar lwyfannau ar-lein lle bo hynny’n briodol.

Sylwer, bydd Canolfannau Ôl-radd eraill yn cael eu defnyddio ar gyfer diwrnodau astudio, megis yr Ysbyty Deintyddol, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd neu Ysbyty Llandochau, ynghyd â lleoliadau eraill.

Mapiau a Chyfarwyddiadau
TREFNIADAU PARCIO YN LLANDOCHAU

Mae dau opsiwn ar gael i chi:

1.         Parcio a Theithio
Mae gwasanaeth Parcio a Theithio ar gael o Fae Caerdydd, gyda gwasanaeth bws am ddim rheolaidd i ac o’r ysbyty. Mae’n gweithio’n dda hyd yma.

MAE’N DEBYG Y BYDDAI HYN YN HAWS GAN FOD PARCIO AR Y SAFLE YN DOD YN DRAFFERTHUS. DOES DIM ANGEN COFRESTRU AR GYFER Y GWASANAETH.  

2.         Parcio ar y Safle
Mae cyfleusterau parcio ar safle UHL yn cael ei fonitro’n agos gan Parking Eye gan ddefnyddio system gamera Adnabod Rhif Cofrestru Cerbyd Awtomataidd (ANPR). Mae’r rheoliadau’n cael eu gweithredu’n llym a bydd cosbau os nad yw’r rhain yn cael eu dilyn. Fodd bynnag, ni ddylech wynebu problem os byddwch yn cofrestru i ddefnyddio’r meysydd parcio STAFF ymlaen llaw ar ddiwrnod y cwrs. I wneud hyn, e-bostiwch Parking Eye: uhl@parkingeye.co.uk gan gopïo CAV_UHB.parking.office@wales.nhs.uk yn y neges.  Rhowch “Cronfa Ddata UHL” fel Pwnc eich e-bost. Dyma fap o’r meysydd parcio. Cofiwch ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost GIG wrth ysgrifennu at Parking Eye.

 

Nodwch rif cofrestru eich cerbyd, nodwch y dyddiad y byddwch chi’n mynychu’r cwrs (ac enw’r cwrs) a gofynnwch i gael manylion eich car wedi’i ychwanegu i’r gronfa ddata ar gyfer y diwrnod hwnnw drwy ddefnyddio’r testun canlynol: “A fyddech cystal ag ychwanegu Rhif Cofrestru’r Cerbyd canlynol i’r Gronfa Ddata UHL ar gyfer dydd Gwener, 30 Mehefin 2023”.

Peidiwch â defnyddio Maes Parcio 8 (sydd ar gyfer staff yn unig), nac ychwaith y meysydd parcio ar gyfer cleifion/ymwelwyr oherwydd mae gan rhain gyfyngiad amser pedair awr. Hefyd, peidiwch â pharcio yn y maes parcio i breswylwyr y tu ôl i’r Ganolfan Addysg.

Nid yw’r Ganolfan Addysg yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gosbau i fynychwyr oherwydd methu â chydymffurfio gyda rheoliadau Parking Eye. Mae’r cynllun safle atodedig yn dangos y Ganolfan Addysg, sef yr adeilad brics coch mawr ar y dde wrth i chi yrru drwy’r gât fawr i’r safle (17 ar y cynllun safle). Mae’r cynllun hwn hefyd yn dangos y meysydd parcio sydd heibio ein hadeilad ni ar y safle.

COFIWCH ADAEL DIGON O AMSER I GERDDED YN ÔL I’R GANOLFAN YN OGYSTAL Â PHARCIO.

CYFLEUSTERAU’R YSBYTY
Gallwch brynu cinio a lluniaeth yn y prif ysbyty mewn bwyty, siop goffi a chiosg yn yr adran cleifion allanol.

Gweinyddwr y Cwrs
Addysg Feddygol a Deintyddol, Canolfan Academaidd Routledge
Ysbyty Llandochau, Heol Penlan
Penarth CF64 2XX    
Ffôn: 029 2071 6342 
jayne.davies7@wales.nhs.uk

Hysbysiad Preifatrwydd AaGIC ar gyfer Goruchwylwyr Addysgol WDTFT

Nod yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw bod yn dryloyw ynghylch pa ddata personol y bydd AaGIC yn ei gasglu amdanoch chi, sut fydd yn cael ei brosesu a’i storio, am ba hyd y bydd yn cael ei gadw a phwy fydd â mynediad i’ch data.

Mae’r GIG (AaGIC) yn rheolydd data o ran y data personol sydd ganddo am Oruchwylwyr Addysgol yng Nghymru.

Data personol yw’r wybodaeth sy’n golygu bod modd adnabod unigolyn yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, pan fo’r wybodaeth yn cael ei darllen ar y cyd â data arall ym meddiant y rheolydd data.

O 25 Mai 2018, disodlodd y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y Ddeddf Diogelu Data 1998, a dyma fydd y prif ddarn o ddeddfwriaeth yn y DU ynghylch data personol. Bydd y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol yn berthnasol i AaGIC. Dylai Goruchwylwyr Addysgol WDTFT gadw mewn cof bod yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i’r holl waith prosesu data personol mewn perthynas â’ch swydd yn AaGIC.

 

Pam mae eich data personol yn cael ei gasglu

Cesglir eich data personol at y dibenion canlynol:

  • Cefnogi’r gwaith o reoli rhaglenni hyfforddiant – bydd eich data’n cael ei ddefnyddio i bennu allbynnau’r Rhaglenni a phennu nifer y Goruchwylwyr Addysgol sydd eu hangen ar y rhaglen yn y dyfodol.
  • Rheoli eich cydnabyddiaeth fel Goruchwylydd Addysgol – bydd data personol a gesglir at y diben hwn yn cael ei gadw mewn cronfa ddata, a fydd fel arfer yn cynnwys eich enw, y Bwrdd/Ymddiriedolaeth Iechyd sy’n eich cyflogi, eich rhif Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC), cyfeiriad e-bost ac unrhyw wybodaeth arall sy’n berthnasol i’r gwaith o reoli eich rôl fel Goruchwylydd Addysgol yn effeithiol.
  • Prosesau sicrwydd ansawdd ac adolygu perfformiad – Mae’n bosibl y bydd eich data’n cael ei ddefnyddio i gefnogi dulliau lleol amrywiol, gan gynnwys ymweliadau practis.
  • Cydweithio â rhanddeiliaid i gyflawni gwelliannau a datblygiadau ar gyfer Hyfforddiant WDTF a’r gweithlu deintyddol yng Nghymru.
  • Cynnal diogelwch cleifion drwy reoli pryderon am berfformiad – Mae’n bosibl y bydd eich data personol yn cael ei rannu â’r GDC pe bai unrhyw bryderon difrifol ynghylch eich ffitrwydd i ymarfer fel Goruchwylydd Addysgol.
  • Cyfathrebu â chi am gyfleoedd datblygu, digwyddiadau, arolygon a gwybodaeth a allai fod o ddiddordeb i chi yn eich rôl fel Goruchwylydd Addysgol.
  • Hwyluso dull tryloyw o ran Hyfforddiant WDTF yng Nghymru.
  • Sicrhau uniondeb proffesiynol ymysg ein darparwyr hyfforddiant WDTF: er enghraifft dim cofnodion troseddol.
  • Gwybodaeth am ddiogelu.

 

Cynhelir swyddogaethau AaGIC er budd y cyhoedd. Mae angen prosesu data personol Goruchwylwyr Addysgol er mwyn cynnal y swyddogaethau hynny. Ymhlith y data personol sensitif a allwn fod angen ei rannu mae gwybodaeth ynghylch eich iechyd neu gofnod troseddol, os bydd angen i’r GDC neu eich cyflogwr gael gwybod.

 

Sut bydd eich data personol yn cael ei gasglu

Cesglir eich data personol pan fyddwch chi’n cyflwyno’ch ffurflen gais i fod yn Oruchwylydd Addysgol Hyfforddiant WDTF, a phan fyddwch yn llofnodi ac yn cyflwyno eich Contract.

 

Sut mae eich data personol yn cael ei gadw’n ddiogel

Dim ond TPD WDTF a’r Swyddog Gweinyddol yn AaGIC sy’n gallu cael mynediad i’ch data personol. Bydd eich data personol yn cael ei gadw am chwe blynedd ar ôl i chi adael eich rôl fel Goruchwylydd Addysgol. Bryd hynny, bydd eich data personol yn cael ei ddinistrio yn gyfrinachol ac mewn modd diogel.

 

Sut a pham allai eich data personol gael ei rannu

Cedwir y wybodaeth hon mewn cronfa ddata electronig â mynediad cyfyngedig iddi.

Mae’n bosibl y bydd eich data personol yn cael ei rannu gyda’r canlynol –

  • Llywodraeth Cymru
  • Byrddau Iechyd Lleol (BILlau)
  • Trydydd partïon at ddibenion adrodd neu ymchwil, a rheoli gwasanaethau megis portffolios.

Bydd AaGIC yn rhannu eich data personol â thrydydd partïon drwy ddefnyddio platfformau diogel yn unig, a lle bo angen i reoli eich rôl Goruchwylydd Addysgol, er enghraifft problemau perfformiad a chofrestru proffesiynol, uniondeb neu faterion ynghylch taliadau.

 

Ni fydd AaGIC yn trosglwyddo’ch data oni bai ei fod yn fodlon ar y materion canlynol:

1.         Mae sail gyfreithiol a theg dros rannu eich data personol gyda’r trydydd parti.   

2.         Bydd y data yn cael ei drin gan y trydydd parti yn unol â chyfraith diogelu data.

Lle bo’r data’n cael ei ddefnyddio at ddibenion dadansoddi a chyhoeddi gan dderbynnydd neu drydydd parti, bydd unrhyw gyhoeddiad yn ddienw ac ni fydd modd adnabod unrhyw unigolyn. Golyga hyn nad yw’r data’n ddata personol mwyach.  

Gall trydydd partïon gynnwys y sefydliadau canlynol: Cymdeithas Ddeintyddol Prydain (BDA), Llywodraeth Cymru, GDC

 

Eich hawliau a chyfrifoldebau

Mae’n bwysig eich bod yn cydweithio â ni i wneud yn siŵr bod yr wybodaeth sydd gennym amdanoch yn gywir ac yn gyfredol, felly rhowch wybod i AaGIC ar unwaith os oes angen cywiro neu ddiweddaru unrhyw ddata personol.

Fel arfer, bydd AaGIC yn cyfathrebu â chi dros e-bost. Felly, mae’n hanfodol bod gennych gyfeiriad e-bost effeithiol a diogel, neu mae’n bosibl na fydd gwybodaeth yn eich cyrraedd chi.  

Ar unrhyw adeg, os hoffech dderbyn copi o’ch data personol sydd ym meddiant AaGIC, gallwch gyflwyno cais gwrthrych i wybodaeth yn ysgrifenedig. Mewn rhai achosion, bydd gennych hawl i wrthod prosesu sy’n debygol o achosi niwed neu drallod i chi, neu unrhyw benderfyniadau a wneir yn awtomataidd a allai gael effaith sylweddol arnoch chi.  

Mae gennych hawl hefyd i wneud cais i ddata personol anghywir gael ei gywiro, ei flocio, ei ddileu neu ei ddinistrio.

Os hoffech arfer unrhyw rai o’r hawliau hyn, neu os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch y ffordd mae eich data personol yn cael ei brosesu, cysylltwch ag AaGIC.

Os hoffech ddysgu mwy am ddiogelu data, ewch i wefan y Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Mae’r ICO yn ymdrin â chwynion ynghylch sut mae rheolwyr data wedi delio â materion gwybodaeth, ac yn cynnwys canllawiau defnyddiol.